main logo
Background Splash

Gan adrian

CarysJones-1

Bydd Carys Jones yn dechrau gradd yn y Gyfraith yn y sefydliad adnabyddus fis Medi eleni.

Ar ôl dilyn cyrsiau Safon Uwch yn y Gyfraith, Mathemateg a Ffrangeg yng Nghanolfan Chweched Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria, mae’r unigolyn 18 oed wrth ei bodd ei bod wedi cael ei derbyn i Goleg Clare clodfawr y Brifysgol.

“Dwi wedi gwirioni fy mod i’n mynd, mae’n gwireddu breuddwyd,” meddai Carys , o Higher Kinnerton.

“Dwi wedi bod eisiau gweithio yn y gyfraith am sawl blwyddyn. Yn wreiddiol ro’n i eisiau bod yn fargyfreithwraig ond dwi’n meddwl dilyn llwybr cyfreithwraig rŵan.

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cyfraith teulu a chyfraith hawliau dynol ers astudio hyn yn Cambria ond dwi’n barod i ddysgu rhagor ac yn methu aros i ddechrau arni.”

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Yr Hob, diolchodd Carys i staff y coleg am y cymorth a gafodd hi a’i chyd-fyfyrwyr trwy gydol y pandemig.

“Ro’n i’n cael trafferth dros y cyfnod clo, ond ym mlwyddyn 13 ro’n i’n lwcus iawn ac fe ges i lawer o arweiniad gan fy athro Ffrangeg. Fe ges i gymorth i ddal i fyny a gwella fy ngraddau pan ddechreuon nhw ddisgyn,” meddai.

“Fe ges i sesiynau ychwanegol buddiol iawn ar ôl ysgol hefyd, a dwi’n ddiolchgar iawn am hynny – maen nhw wedi talu eu ffordd a dwi’n edrych ymlaen at y blynyddoedd i ddod.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Carys Jones, o Higher Kinnerton, a astudiodd yn 6ed Glannau Dyfrdwy.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost