main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

berlincambria

Aeth pedwar ar ddeg o fyfyrwyr o safle Iâl y coleg yn Wrecsam i Berlin ar daith iechyd a gofal, a chafodd ei harwain gan Arweinydd Gwyddoniaeth Feddygol a Chymhwysol, Paul Phillips-Jenkins.

Gwnaeth y criw deithio ar dros 50 o drenau mewn pedwar ffordd wrth fwynhau prif sefydliadau ac arddangosfeydd y brif ddinas.

Yn eu plith roedd myfyrwyr o gyrsiau Gwyddoniaeth Feddygol, Gwyddoniaeth Gymhwysol a Safon Uwch mewn Bioleg.

“Diben y daith oedd i ymdrwytho’r myfyrwyr mewn gwyddoniaeth yn Berlin, y ddinas orau yn Ewrop i wneud hynny,” meddai Paul.

“Roedd y pwyslais ar wyddorau iechyd, felly aethon ni i arddangosfeydd, gwnaethon ni fwynhau gweithgareddau gwyddoniaeth a thechnoleg ryngweithiol, atyniadau byd natur ac edrych ar ragfynegiadau ar gyfer gwyddoniaeth yn y dyfodol fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Ryngwladol Berlin.”

Gwnaeth y criw ymweld ag un o ysbytai addysgu mwyaf a hynaf y cyfandir, Charité, a gweld tirnodau gan gynnwys Porth Brandenburg, Wal Berlin, Museum Island, Checkpoint Charlie, a’r Tŵr Teledu, gyda’i lifft â tho gwydr ar ei ben, a gweld platfform lle mae modd syllu ar uchder o 203m.

“Gwnaethon ni gerdded dros 100,000 cam yn ystod ein taith, felly roedd bob diwrnod yn llawn dop!” ychwanegodd Paul.

“Yn y pen draw, roedd yn gyfle anhygoel i’r myfyrwyr, gan ddangos y meincnod ar gyfer gwyddoniaeth ac rydym wedi cael atgofion bythgofiadwy ac ysbrydoledig i ni ddod yn ôl i Cambria, gan osod y sylfeini ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth ar yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan www.cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost