main logo
Background Splash

Gan hannah

DeltaFulfilment

Mae Delta Fulfilment yn cynnig pedair wythnos o brofiad gwaith yn ei gyfleuster o’r radd flaenaf yn Ffordd Bedwell, Wrecsam i fyfyrwyr Peirianneg blwyddyn gyntaf.

Mae’r cwmni, sy’n cynorthwyo cwmnïau eFasnach a’u cwsmeriaid, yn tyfu’n gyflym ac yn gobeithio y bydd ymgeiswyr yn dod yn eu holau yn y dyfodol, ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.

Mae Jake Shaw, Rheolwr Warws yn Delta Fulfilment, yn falch o gael helpu pobl ifanc i gael profiad gwaith amser go iawn, bywyd go iawn yn dilyn yr heriau o gael lleoliadau profiad gwaith ar ôl y pandemig.

Dywedodd: “Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cael y pleser o gael tri myfyriwr Peirianneg flwyddyn gyntaf o safle Ffordd y Bers y coleg.

““Fe wnaethon ni roi cyflwyniad iddyn nhw o sut brofiad oedd gweithio mewn amgylchedd cyflym sydd â rheoliadau PPE, gan fodloni gofynion ar gyfer nifer o gwsmeriaid a defnyddwyr terfynol a sicrhau bod arferion gwaith yn cael eu cynnal yn ddiogel.

“Fe gawson nhw’r cyfle i weithio ar dasgau amrywiol yn ein hadrannau, a meithrin sgiliau newydd a phrofiad iddyn nhw eu rhannu gyda’u cyd-fyfyrwyr.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r coleg a rhagor o fyfyrwyr o’r cwrs hwn yn y dyfodol.”

Diolchodd Daytun Unitt, Rheolwr Hyfforddiant WorldSkills UK a darlithydd Peirianneg Drydanol ac Electronig yng Ngholeg Cambria, i Delta Fulfilment am ei gefnogaeth.

Dywedodd hefyd: “Mae’n wych gweld cwmnïau lleol fel hyn yn darparu profiad gwaith gwerthfawr i’n dysgwyr uwch.

“Mae nid yn unig yn rhan hanfodol iddyn nhw gael fframwaith ar gyfer eu cymhwyster, ond yn gymhelliant sy’n dangos iddyn nhw sut beth ydy’r byd gwaith mewn gwirionedd.” 

Ewch i www.deltafulfilment.co.uk i gael rhagor o wybodaeth am Delta Fulfilment.

I gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk a dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost