P’un a ydych chi am ddysgu rhywbeth newydd neu wella eich sgiliau, mae ein digwyddiadau’n ffordd berffaith o ddarganfod rhagor am ddysgu yn Cambria.
Mae Noson Agored i Oedolion Coleg Cambria yn gyfle i chi archwilio ein hystod eang o gyrsiau, cyfarfod â’n tiwtoriaid arbenigol, siarad â staff, cael gwybodaeth a chyngor am gyllid a gwneud cais am gwrs,
Rhesymau dros Ddod:
- Anelu am ddyfodol mwy disglair trwy astudio gradd gyda Chanolfan Brifysgol Cambria
- Eisiau gwella eich sgiliau i symud ymlaen yn eich gyrfa gyda chwrs datblygiad proffesiynol
- Eisiau dod o hyd i gyrsiau hamdden hwyliog i ddarganfod sgiliau newydd a dysgu rhywbeth newydd
- Angen cyngor am Brentisiaethau
- Eisiau dysgu Cymraeg gyda Cymraeg i Oedolion
- Diddordeb yn ein cyrsiau Sgiliau Oedolion am ddim* gan gynnwys Saesneg, Mathemateg, TG a Sgiliau Cyflogadwyedd
- Eisiau darganfod rhagor am ein cyrsiau am ddim* wedi’u hariannu trwy Gyfrif Dysgu Personol.
*os ydych yn gymwys