DATHLODD CANOLFAN Brifysgol Cambria lwyddiannau dysgwyr addysg uwch mewn seremoni raddio ddisglair

Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghanolfan gynadledda Glanrafon y coleg yng Ngholeg Cambria Iâl yn Wrecsam, a’i fynychu gan 33 o fyfyrwyr oedd wedi cwblhau cymwysterau Cenedlaethol Uwch a phroffesiynol. Ymunwyd â nhw gan ddarlithwyr, ffrindiau a theulu â nhw, a’u croesawu gan Emma Hurst, Deon Addysg Uwch a Mynediad i Addysg Uwch, ynghyd ag Arweinydd […]
Mae Coleg Cambria wedi cynllunio strategaeth newydd gyda’r nod o ddarparu addysg uwch hyblyg i weithwyr ac i ddysgwyr sy’n oedolion

Bydd y Strategaeth Sgiliau Technegol Uwch yn cael ei lansio ym mis Ionawr gyda’r nod o wella mynediad a chyfranogiad, annog datblygu’r cwricwlwm ac arloesi, a meithrin partneriaethau mewn nifer o ddiwydiannau i lenwi bylchau mewn arbenigedd a phrofiad. Dywedodd Deon Mynediad ac Addysg Uwch (AU) Cambria, Emma Hurst, bod darparu mwy o gyfleoedd i […]
Bydd gwasanaeth gymorth newydd ar-lein yn cynorthwyo darpar fyfyrwyr AU yn y Gogledd Ddwyrain yr haf yma

Mae Canolfan Brifysgol Coleg Cambria wedi trefnu sesiynau i ddysgwyr trwy borth trefnu sesiynau newydd. Mae’r sesiynau’n cynnig arweiniad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio cymhwyster Addysg Uwch, gan gynnwys cyngor ar opsiynau gradd, argymhellion cwrs, ceisiadau, cyllid ac ariannu a rhagor. Maent yn cael eu cynnal yn ystod mis Awst a Medi […]
“Mae Coleg Cambria wedi rhoi sgiliau gweithio fel tîm, bod yn drefnus a gwytnwch i ni. Mae bob sgil rydych chi wedi’i dysgu yn ystod eich amser chi yma yn hollol amhrisiadwy – cofiwch eu rhoi nhw ar waith yn eich gyrfa a’ch bywyd personol yn y dyfodol.”

Roedd geiriau’r cyn-fyfyriwr Lauren Baker yn llenwi Ysgol Fusnes Coleg Cambria Llaneurgain ddydd Gwener, wrth iddi hi ymuno â hyd at 50 o ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau Cenedlaethol Uwch a phroffesiynol ar gyfer y seremoni raddio yn y Ganolfan Brifysgol eleni. Gwnaeth Lauren gwblhau cynllun prentisiaeth Airbus gan ymgymryd â’r BSc mewn Rheoli Busnes […]
Bydd rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol uchelgeisiol yn creu llwybr hwylus i ddyrchafiad a dilyniant i’r rhai sy’n gweithio yn y sector

Wedi’i harwain gan Andrea Roberts, darlithydd ac arweinydd y rhaglen, bydd y cwrs gradd sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Brifysgol Cambria yn Wrecsam dros gyfnod o 2 flynedd. Mae’n rhoi llwybr hyblyg i ddysgwyr er mwyn iddynt ennill cymhwyster sydd wedi’i “ddylunio i fagu hyder” mewn amgylchedd cyfeillgar […]
Cafodd Canolfan Brifysgol Coleg Cambria adroddiad disglair gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA)

Roedd yr adroddiad QAA yn mynegi hyder bod ‘safonau academaidd yn ddibynadwy, yn cyrraedd gofynion y DU, ac yn gymharol debyg i safonau sy’n cael eu gosod a’u cyflawni gan ddarparwyr eraill yn y DU’. Hefyd fe wnaeth y tîm adolygu – a aeth i ymweld â’r coleg ddwywaith, gan gynnwys ym mis Mai y […]
Mae hoelion wyth ym meysydd gweithgynhyrchu a pheirianneg wedi rhoi eu cefnogaeth i brentisiaethau gradd blaenllaw

Mae’r rhaglen Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu a ddarperir gan Ganolfan Brifysgol Coleg Cambria a Phrifysgol Abertawe wedi’i hachredu ar y cyd gan y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (RAeS) ac IMechE (Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol). Mae IMechE hefyd wedi achredu prentisiaeth gradd y partneriaid mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch. Cynhelir y ddau gwrs am un diwrnod yr wythnos […]
Mae graddedigion dawnus wedi ennill gwobrau academaidd mewn seremoni addysg uwch a chynhaliwyd yng Ngholeg Cambria

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Ysgol Fusnes Llaneurgain ar gyfer 40 o ddysgwyr, eu teuluoedd, a’r gymuned. Cawsant eu croesawu gan Emma Hurst, Deon Addysg Uwch a Mynediad i Addysg Uwch, dywedodd: “Diolch i’n holl fyfyrwyr a’n gwesteion a staff am y gefnogaeth maen nhw wedi ei dangos i’w gilydd, ac i Cambria. “Roedd […]
MAe Peiriannydd Talentog Wedi Ennill Gwobr Lawn Bri Yn Sgil Ei Gynnydd Esgynnol

Dyfarnwyd Gwobr Rhwydwaith Lleol y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg am Ragoriaeth Myfyriwr i Jonathan Harris, sy’n ddysgwr yng Nghanolfan Brifysgol Coleg Cambria. Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo agwedd a gallu myfyrwyr o fewn ardal ddaearyddol y Rhwydwaith Lleol mewn sefydliad Addysg Bellach heb ei achredu, sefydliad Addysg Uwch heb ei achredu neu Sefydliad Cenedlaethol heb […]
Mae swyn anifeiliaid a’r cysur o ddysgu’n nes at adref wedi denu myfyrwyr i Ganolfan Brifysgol Coleg

Mae cymwysterau HNC a HND Coleg Cambria mewn Rheolaeth Anifeiliaid wedi cael eu canmol am y profiad ymarferol a’r addysgu teilwredig sy’n cael ei gynnig ar ei safle hyfryd yn Llaneurgain, Sir y Fflint. Dywedodd Arweinydd y Rhaglen, Sadie Thackaberry, fod cysylltiadau’r coleg â diwydiant a’i gyfleusterau modern – gan gynnwys y Ganolfan Anifeiliaid Bach […]