main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Cambria University Centre Celebration at Northop

Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Ysgol Fusnes Llaneurgain ar gyfer 40 o ddysgwyr, eu teuluoedd, a’r gymuned.

Cawsant eu croesawu gan Emma Hurst, Deon Addysg Uwch a Mynediad i Addysg Uwch, dywedodd: “Diolch i’n holl fyfyrwyr a’n gwesteion a staff am y gefnogaeth maen nhw wedi ei dangos i’w gilydd, ac i Cambria.

“Roedd yn bleser eich croesawu chi yma ac rydyn ni’n eich llongyfarch chi ar eich cyflawniadau.”

Gwnaeth enillwyr y gwobrau gyflawni cymwysterau ar gyfer rhaglenni gan gynnwys Diploma Lefel 4 ILM mewn Arwain a Rheoli; Diploma Proffesiynol AAT mewn Cyfrifeg; Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl; Diploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli, a HND Lefel 5 mewn Rheoli Anifeiliaid.

Roedd y seremoni yn cynnwys sgwrs gan Gyn-fyfyriwr y Flwyddyn – AU Melissa Molyneux, llwyddodd Melissa i sicrhau gradd mewn Rheoli Busnes Cymhwysol yn Cambria cyn ei swydd bresennol yn Airbus, lle mae hi’n Rheolwr Gweithrediadau a Rheolwr Allanoli Peirianneg Adenydd.

“Gwnes i ennill profiad gwerthfawr yn Airbus fel prentis masnachol ar gynllun gwaith wrth astudio ar gyfer gradd; dwi wedi bod yn berson ymarferol ers erioed felly roedd ennill prentisiaeth radd yn gyfuniad cywir o brofiad bywyd go iawn gyda’r cymhwyster roeddwn i’w eisiau,” meddai Melissa.

“Gwnes i fwynhau pob agwedd o fy nghyfnod yng Ngholeg Cambria, a bydd y radd yn fy rhoi mewn lle da ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Gwnes i astudio ystod o bynciau fel rhan o’r radd ac roeddwn i’n gallu rhoi hynny ar waith yn fy amgylchedd gwaith.”

Ychwanegodd hi: “Mae’r daith datblygu dwi wedi bod arni mewn cyfnod eithaf byr yn rhagorol a dwi’n diolch i Cambria am lawer o hyn. Dwi’n diolch i’r rhwydwaith cymorth cefais i yno, yn enwedig fy mentoriaid proffesiynol ac academaidd.

“Erbyn hyn dwi wedi bod gyda Airbus ers dros bedair blynedd ac mae amser yn hedfan pan rydych chi’n cael hwyl!”

Gwnaeth y Pennaeth Sue Price ddiolch i bawb a ddaeth ar y dydd a dywedodd: “Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant a diolch yn fawr iawn i’ch teulu a’ch ffrindiau sydd wedi eich cefnogi chi ar gam cyntaf eich taith.

“Rydych chi wedi gweithio’n hynod o galed ac roedd hyn yn ffordd berffaith i’ch helpu chi i ddathlu eich cyflawniadau.”

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Brifysgol Cambria ewch i www.cambria.ac.uk/cambria-university-centre.

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion diweddaraf a gwybodaeth gan y coleg.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost