main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

cyflwyniad IET

Dyfarnwyd Gwobr Rhwydwaith Lleol y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg am Ragoriaeth Myfyriwr i Jonathan Harris, sy’n ddysgwr yng Nghanolfan Brifysgol Coleg Cambria.

Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo agwedd a gallu myfyrwyr o fewn ardal ddaearyddol y Rhwydwaith Lleol mewn sefydliad Addysg Bellach heb ei achredu, sefydliad Addysg Uwch heb ei achredu neu Sefydliad Cenedlaethol heb ei achredu y mae gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg gytundeb cydnabod cydfuddiannol â nhw, a fyddai’n arwain at y myfyrwyr yn dod yn beirianwyr siartredig, peirianwyr corfforedig, neu dechnegwyr peirianyddol.

Mae Jonathan yn astudio ar gyfer HNC mewn Technoleg Drydanol ac Electronig wrth weithio fel Peiriannydd Dibynadwyedd yn y cwmni cynhyrchion a thechnolegau meddygol byd-eang ConvaTec yng Nglannau Dyfrdwy, lle cafodd y wobr gan gadeirydd y rhwydwaith lleol, David Crawford.

“Rwy’n unigolyn gweithgar sydd wedi bod yn frwd am beirianneg erioed,” meddai Jonathan, a ddechreuodd ei yrfa fel gwneuthurwr dur ar y môr wrth ennill cymwysterau mewn ysgol nos.

“Ers ymuno â ConvaTec rwyf wedi parhau i ddatblygu, gan symud i fyny o’m swydd gyntaf fel technegydd aml-fedrus i’m swydd bresennol, lle rwy’n defnyddio fy mhrofiad a’m gwybodaeth am adfer prosesau i roi gwelliannau ar waith.

“Bellach rwy’n gyfrifol am uwchsgilio a hyfforddi technegwyr trydanol a dibynadwyedd y prosesau gweithgynhyrchu presennol yn ogystal â safonau gyrru a gofynion ar gyfer offer a pheiriannau newydd sy’n cefnogi dilysu, cydymffurfedd ansawdd a chomisiynu.

“Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon a hoffwn ddiolch i’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, ConvaTec a Choleg Cambria am eu cefnogaeth a’u hanogaeth.”

Ychwanegodd Colin Lee, Tiwtor Cwrs Trydanol HNC yng Ngholeg Cambria: “Mae penderfyniad Jonathan i wella’n academaidd ac yn broffesiynol yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl i eraill.

“Mae’n llawn haeddu’r wobr hon, ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost