main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

“Teamwork, organisation, and resilience are all skills Coleg Cambria has gifted us. Take every skill you have learned during your time here into your future careers and personal lives as they are absolutely invaluable.”

Roedd geiriau’r cyn-fyfyriwr Lauren Baker yn llenwi Ysgol Fusnes Coleg Cambria Llaneurgain ddydd Gwener, wrth iddi hi ymuno â hyd at 50 o ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau Cenedlaethol Uwch a phroffesiynol ar gyfer y seremoni raddio yn y Ganolfan Brifysgol eleni.

Gwnaeth Lauren gwblhau cynllun prentisiaeth Airbus gan ymgymryd â’r BSc mewn Rheoli Busnes Cymhwysol yn Cambria ym mis Rhagfyr, ac erbyn hyn mae hi’n Gynllunydd Tactegol ar y Tîm Strwythurau Cynllunio Rhaglen Eil Sengl yn ffatri gwneud adenydd y sefydliad awyrofod blaenllaw ym Mrychdyn.

Roedd Lauren yn clodfori’r coleg am ei gefnogaeth ac yn llongyfarch y grwpiau addysg uwch am eu “dyfalbarhad” a’u “gwytnwch”.

“Er bod addysg bellach ac uwch yn heriol, mae Coleg Cambria yn eich galluogi chi i sylweddoli ei bod hi’n bosib cyflawni eich nodau a llwyddo,” meddai Lauren.

“Wrth siarad â ffrindiau a chydweithwyr sydd heb fynd i’r coleg, rydych chi’n sylweddoli eich bod chi ddim yn cael y lefel yma o gymorth mewn unrhyw le arall.

“Mae gan y staff a’u staff addysgu lefel uchel iawn o ymgysylltu ac mae hynny’n cynyddu eu potensial i lwyddo yn anochel. Mi wnaeth llawer ohonoch chi dynnu sylw at hyn, ac mi wnes i roi gwybod am hyn pan oeddwn i’n fyfyriwr arweiniol ar gyfer y coleg yn yr adolygiad QAA – cyfle gwych arall i mi.”

Ychwanegodd hi: “Dwi mor ddiolchgar fy mod i wedi cael y cyfle yma i’ch llongyfarch chi i gyd a dwi’n gobeithio fy mod i wedi rhoi ychydig o gyngor i chi a fydd o gymorth i chi yn y dyfodol a’ch ysbrydoli chi i gredu eich bod chi’n gallu gwneud unrhyw beth rydych chi’n dymuno ei wneud.”

Sue Price, Pennaeth Cambria oedd yn agor y seremoni, roedd hi’n clodfori’r dysgwyr ac yn diolch eu teulu a’u ffrindiau sydd wedi bod yn gefn iddyn nhw ar eu taith i lwyddiant academaidd.

“Dyma’r ffordd berffaith i’ch helpu chi i ddathlu eich cyflawniadau, dwi’n gobeithio eich bod chi’n cael amser arbennig” ychwanegodd hi.

Ymysg y cyrsiau a’r rhaglenni a gafodd eu cynrychioli ar y dydd oedd Diploma Proffesiynol Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg, Tystysgrif Lefel 4 Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM) mewn Arwain a Rheoli, Diploma Lefel 4 ILM mewn Arwain a Rheoli, a Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli.

Cafodd y myfyrwyr sydd wedi cyflawni’r HNC Lefel 4 mewn Adeiladu, Yr Amgylchedd Adeiledig, HND mewn Adeiladu a’r Amgylched Adeiledig, Diploma Cyswllt Lefel 5 CIPD mewn Rheoli Pobl, Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Rheolaeth Anifeiliaid, a HND Lefel 5 mewn Rheolaeth Anifeiliaid eu dathlu hefyd.

Dywedodd Emma Hurst, Deon Addysgu Uwch a Mynediad i AU yn Cambria: “Dwi’n siŵr eich bod chi i gyd mor falch heddiw, ac rydyn ni’n rhannu’r balchder yma gyda chi.

“Rydyn ni eisiau diolch i’n hoff staff am gefnogi ein dysgwyr ar hyd y ffordd, ac i’n llywodraethwyr hefyd. Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ni sy’n dathlu heddiw, mi ddylech chi fod yn falch iawn o’ch cyflawniadau.”

Dilynwch yr hashnod #CUCCelebration a @colegcambriacym ar gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch chi wylio fideo o’r seremoni raddio yma: CUC Graduation Video – YouTube

Ar gyfer y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i https://www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost