main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

SadieThackaberry2

Mae cymwysterau HNC a HND Coleg Cambria mewn Rheolaeth Anifeiliaid wedi cael eu canmol am y profiad ymarferol a’r addysgu teilwredig sy’n cael ei gynnig ar ei safle hyfryd yn Llaneurgain, Sir y Fflint.

Dywedodd Arweinydd y Rhaglen, Sadie Thackaberry, fod cysylltiadau’r coleg â diwydiant a’i gyfleusterau modern – gan gynnwys y Ganolfan Anifeiliaid Bach fyrlymus – wedi galluogi graddedigion i gael interniaethau ecoleg ac ystod eang o swyddi gan gynnwys ceidwaid sŵ a swyddogion lles gyda’r RSPCA.

“Mae ein myfyrwyr yn cael gweithio gyda thua 100 o wahanol rywogaethau o bob cwr o’r byd, gan gynnwys bridiau da byw brodorol ac amrywiaeth o infertebratau, amffibiaid, pysgod, adar a mamaliaid, ac o’r flwyddyn nesaf ymlaen byddwn yn cyflwyno alpacas a llyffant cansen,” meddai.

“Gan fod y myfyrwyr yn agos at yr anifeiliaid ac yn cymryd rhan mewn sesiynau theori manwl, mae’r dull cynhwysfawr hwn yn rhoi persbectif unigryw ar ofal a rheolaeth y creaduriaid anhygoel hyn.

“Wrth gwrs, mae yna elfen academaidd i’r cymwysterau rydy ni’n eu cynnig, ond mae bod yn rhan o amgylchedd go iawn mewn amser real yn eu paratoi’n well ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Mae cael detholiad mor eang o rywogaethau a phynciau hefyd yn rhoi cyfle i’r dysgwr ddod o hyd i leoliad sy’n addas iddyn nhw.

“Mae hynny’n ein galluogi i ddarparu arlwy mwy deilwredig ar gyfer eu diddordebau a’r hyn sy’n mynd â’u bryd nhw,” meddai Sadie.

“I rai, gallai hynny fod yn dda byw; i eraill, gallai fod yn fadfallod ac adar egsotig. Does dim un dull gweithredu ‘un maint i bawb’, ac mae hynny wedi rhoi profiad llawer mwy pleserus i’r myfyrwyr.”

Ychwanegodd: “Wrth i ni ddychwelyd at ffordd fwy personol ac agos o weithio ar ôl y pandemig, rydyn ni’n dechrau cyflwyno siaradwyr gwadd ac ymweliadau â safleoedd, sydd wedi bod yn bwynt gwerthu unigryw mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ynghyd ag asesiadau ac adroddiadau ymarferol.

“Ond un peth y byddwn yn ei gadw – a weithiodd yn dda yn ystod y cyfnod clo – yw elfen rithwir, o bell y cwrs, a wnaeth ein galluogi ni i fod yn fwy hyblyg a galw ar rai o’r enwau rhyngwladol mwyaf ym maes gofal anifeiliaid, lle bynnag y bônt yn y byd.

“Un enghraifft oedd yr Athro Raj Sekhar Aich, a ymunodd â ni o India i drafod ei lyfr clodfawr ar siarcod gwyn a deifio cawell – uchafbwynt hynod ddiddorol i ni i gyd.”

Gyda rhagor o fyfyrwyr yn dewis astudio’n nes at adref yn dilyn misoedd o hunanynysu, dywed Sadie bod yr awyrgylch agored a hamddenol yn Llaneurgain wedi rhoi opsiwn arall iddyn nhw yn lle bwrlwm a phrysurdeb bywyd prifysgol.

“Mae agweddau wedi newid, dyna’r adborth rydyn ni wedi’i gael, a gallwch weld hynny ar draws sawl sector,” ychwanegodd.

“Mae iechyd meddwl a llesiant yn bwysicach nag erioed, yn ogystal â gofal a chefnogaeth fugeiliol, a dyna pam mae mwy o bobl yn troi at Goleg Cambria.

“Mae bod yma ymhlith yr anifeiliaid anhygoel hyn fel bod mewn byd arall, mae’n ddihangfa ac yn gyfle i ddilyn llwybr o’ch dewis eich hun tuag at eich dyfodol – mae’r annibyniaeth a’r arweiniad hynny wedi gwneud y cyrsiau lefel gradd hyn yn fwy poblogaidd nag erioed.”

Gellir astudio’r HND dros gyfnod o ddwy flynedd, naill ai’n llawn amser neu am bedair blynedd yn rhan-amser ac mae’n cynnwys modiwlau ar Ymddygiad Anifeiliaid mewn Cymdeithas; Anatomeg a Ffisioleg; Busnes a’r Amgylchedd Busnes; Hwsmonaeth Anifeiliaid; Egwyddorion Ecolegol, Anthroswoleg, a Chadwraeth Bywyd Gwyllt.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost