main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

degreeapprentices

Mae’r rhaglen Peirianneg Awyrennau a Gweithgynhyrchu a ddarperir gan Ganolfan Brifysgol Coleg Cambria a Phrifysgol Abertawe wedi’i hachredu ar y cyd gan y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (RAeS) ac IMechE (Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol).

Mae IMechE hefyd wedi achredu prentisiaeth gradd y partneriaid mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch.

Cynhelir y ddau gwrs am un diwrnod yr wythnos dros gyfnod o dair blynedd ar safle Glannau Dyfrdwy’r coleg, gyda rhywfaint o ddysgu o bell yn y gweithle a chyfnod ar y safle yn Abertawe.

Dywedodd Nick Tyson, Is-bennaeth Technoleg, Peirianneg ac Adeiladu yng Ngholeg Cambria: “Rydyn ni’n falch iawn o weld y ddwy brentisiaeth gradd wedi’u hachredu gan gyrff sector sy’n hanfodol i addysg a’r diwydiannau y maen nhw’n eu gwasanaethu.

“Mae cael eu cefnogaeth o ran dilysrwydd ac ansawdd yn dyst i’r gwaith sydd wedi’i wneud yma yng Ngholeg Cambria ac yn Abertawe, gwir ysbryd cydweithio a’r cysylltiadau sydd gan y ddau sefydliad ym meysydd peirianneg, gweithgynhyrchu uwch ac awyrennau, gartref ac ar y llwyfan rhyngwladol.”

Ychwanegodd: “Mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio i sicrhau bod gan ein graddedigion yn y gwaith wybodaeth ryngddisgyblaethol gyflawn yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, yn academaidd ac, yn bwysig, yn ymarferol.

“Maen nhw wedi’u teilwra i’r rhai sydd eisoes yn gweithio ym maes gweithgynhyrchu a pheirianneg, i’w helpu i ddatblygu, dysgu sgiliau newydd, a chyrraedd eu potensial wrth ennill profiad hanfodol a chymhwyster lefel gradd.

“Mae’r ffaith fod y ddwy ohonyn nhw wedi cael eu hachredu i’r safon hon yn rhinwedd werthu unigryw i’r rhaglenni, ac yn adlewyrchiad o ba mor ganolog maen nhw wedi bod i’n rhanddeiliaid a’n partneriaid mewn diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf.”

Meddai Cris Arnold, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydyn ni wedi bod yn rhedeg y graddau cydweithredol gyda Cambria ers 10 mlynedd bellach, gan drawsnewid o Raddau Sylfaen i Brentisiaethau Gradd, felly mae’n sêl bendith ardderchog i gael y rhaglenni wedi’u hachredu gan IMechE ac RAeS.

“Mae’r achrediad hwn yn galluogi ein graddedigion i symud ymlaen ar eu llwybr i ennill cydnabyddiaeth broffesiynol fel Peiriannydd Siartredig neu Gorfforedig.”

Ychwanegodd: “Mae’r bartneriaeth gyda’r coleg yn enghraifft wych o ddau sefydliad yn adeiladu ar eu cryfderau i gefnogi anghenion diwydiant ac rydyn ni’n gweld y rhaglenni gradd hyn fel partneriaeth pedair ffordd rhwng Prifysgol Abertawe, Cambria, ein partneriaid yn y diwydiant a’n prentisiaid, ac mae gan bob un ohonyn nhw rôl bwysig iawn i’w chwarae.

“Mae’r gallu i ymgymryd â gradd anrhydedd achrededig wrth weithio yn gyfle gwych i’r rhai sydd am ddatblygu eu gyrfa mewn peirianneg, a gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, gall fod yn llwybr deniadol iawn.”

Am ragor o newyddion a gwybodaeth, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk/university-centre

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost