main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

IMG_0168

Mae Kate Roberts sy’n artist theatr, o Gei Connah, greu’r arddangosfa ryngweithiol fel rhan o’i gradd meistr. Cwblhaodd Kate ei gradd meistr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod pandemig Covid-19.

Nid oedd hi’n gallu arddangos ei harddangosfa yn ystod y cyfnod clo – ac roedd hi’n awyddus i ddod â’r arddangosfa “adref” i Sir y Fflint – cysylltodd Kate â Tata Steel a Choleg Cambria. Cafodd hi wahoddiad i arddangos Steel. Site. Speaks. yn adeilad Chweched Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria.

Cafodd y darn ei fwynhau gan fyfyrwyr a darlithwyr ddoe cyn digwyddiad diweddarach lle’r oedd aelodau o’r cyhoedd, cynghorwyd, ac arweinwyr cymuned yn gallu ei weld yn uniongyrchol.

Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad o ddysgu Drama, Theatr a Saesneg – gan gynnwys cyfnodau yn Dubai a’r Eidal – roedd Kate sy’n fam i un wrth ei bodd gyda’r ymateb.

“Er mwyn creu fy asesiad terfynol ar gyfer y brifysgol, gwnes i adfyfyrio ar fy nghefndir a fy nheulu, gwnaeth llawer ohonyn nhw weithio yng ngwaith dur Shotton,” meddai hi.

“Roedd pedair cenhedlaeth o straeon wedi’u trosglwyddo i mi, ac roedd gen i ddiddordeb hefyd yn y deunyddiau, yr hanes a’r effaith enfawr mae’r safle wedi’i gael ar yr ardal yma ers dros ganrif.”

Ychwanegodd Kate: “Wrth gwrs dwi wedi wynebu heriau ar hyd y ffordd, ond mae hwn yn ddathliad o’r bobl, o’i safle yng ngogledd ddwyrain Cymru, a’r byd.

“Pe bai’r safle’n gallu siarad, beth fyddai’n ei ddweud? Roeddwn i eisiau mynegi hynny, a’r un peth ar gyfer tirnodau eraill fel y bont y mae miloedd o weithwyr yn ei chroesi bob dydd, clychau’n canu, cario eu ‘bagiau snap’ ac yn barod i roi shifft – daeth â chymaint o atgofion yn ôl i mi.”

Gyda chymorth gweithwyr presennol a chyn-weithwyr y gwaith dur, roedd llawer ohonyn nhw wedi rhoi dillad ac eitemau eraill a gafodd eu dal ar gamera ar gyfer y gosodiad, rhoddodd Kate olygfa o olau a metel at ei gilydd.

“Mae naws arloesol, gyfoes iddo, gyda blwch golau, lluniau, fideos a chant o stribedi metelaidd yn ffurfio geiriau, ynghyd â nodiadau llais o straeon gwnes i eu recordio a cherddoriaeth a gafodd ei chyfansoddi gan ddisgybl ysgol leol,” meddai Kate.

“Mae’n ddigwyddiad amlsynhwyraidd, yn gyfuniad o ddiwydiant, addysg a chelf, a dwi mor falch a diolchgar o fod wedi gallu ei gynhyrchu ar gyfer pobl Glannau Dyfrdwy – gobeithio y byddan nhw wrth eu bodd gyda’r gwaith ac yn ei fwynhau.”

Ychwanegodd Rheolwr Safle Tata Steel, Bill Duckworth: “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi’r arddangosfa leol yma. Maen nhw’n dweud bod celf yn dynwared bywyd, ac mae gan y gwaith dur dreftadaeth falch yma ac mae’n parhau i chwarae rhan enfawr wrth adeiladu economi werdd yn y DU yn ogystal â chefnogi cymuned leol Glannau Dyfrdwy.

“Mae rhannu ein hanes a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol trwy gelf yn ddull creadigol deniadol a fydd yn gwefreiddio ein gweithwyr a phawb sy’n gysylltiedig â’n diwydiant.”

Dywedodd Miriam Riddell, Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy: “Mae’n anrhydedd i ni arddangos gwaith anhygoel Kate. Fel sefydliad sydd wrth galon y gymuned, dyma gyfle i ni dalu teyrnged i gwmni sy’n parhau i gael effaith sylweddol ar ddiwydiant yng ngogledd ddwyrain Cymru, wrth roi cyfle i’n dysgwyr a’r cyhoedd ddarganfod mwy am ei hanes a’i threftadaeth gyfoethog.”

Bydd yr arddangosfa ar gael i’r cyhoedd ei gweld ar brynhawn dydd Mercher o 1pm-5pm, gan ddechrau 15 Chwefror tan 26 Ebrill, oni bai am wyliau’r Pasg (31 Mawrth – 17 Ebrill). Cadwch le o flaen llaw dros e-bost Liz.eccleston@cambria.ac.uk neu ffoniwch 01978 267485.

Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Am ragor o wybodaeth am Tata Steel, ewch i www.tatasteeleurope.com.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost