Gwnaeth staff safle Ffordd y Bers Coleg Cambria helpu Sarah Stickles i ychwanegu ystafell arall at ei thŷ er mwyn paratoi ar gyfer ffoaduriaid o wlad sy’n wynebu effeithiau dychrynllyd rhyfel.
Mae teulu Stickles yn aros i gael eu ‘paru’ gyda naill ai unigolyn neu riant a phlentyn, wedi iddyn nhw gofrestru ar gyfer cynllun noddi Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU.
Gwnaeth Sarah, sy’n gweithio ym maes gofal drafod gyda’i gŵr a’i phedwar o blant, ac yna apelio ar gyfryngau cymdeithasol am amcan bris gan adeiladwr i wneud y gwaith.
Roedd Amy Rowlands, sy’n ddarlithydd Adeiladu Sylfaen yn Cambria ymysg y rhai cyntaf i ymateb. Roedd hi wedi ymrwymo i adeiladu’r wal a chyflenwi’r holl ddeunyddiau am ddim.
Gwnaeth ei chydweithwyr sef Chad Davies a Mike Ward, a Jacob Jones sy’n fyfyriwr 21 oed ymuno â hi. Gwnaethon nhw gwblhau’r dasg ymhen ychydig o oriau a hyd yn oed helpu gyda thasgau eraill yn yr ardd.
“Roedden nhw’n hollol anhygoel, fedra’ i ddim diolch digon iddyn nhw,” meddai Sarah.
“Roeddwn i wedi syfrdanu bod y tîm wedi cynnig i wneud popeth am ddim, gan gynnwys yr adeiladu a’r plastro.
“Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych mewn ychydig iawn o amser, rydyn ni’n barod i osod carped ac addurno’r ystafell rŵan.
“Dydyn ni ddim yn siŵr eto p’un ai unigolyn neu riant a phlentyn bach fydd yn dod yma i fyw efo ni, gan nad oes digon o le i fwy na hynny, ond rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth y gallwn ni.
“Rydyn ni wedi symud pethau o gwmpas yn y tŷ ac mae’r plant wedi colli ychydig o le, roedd rhaid i ni symud piano fy merch i wneud lle. Ond dydyn nhw ddim yn poeni am hynny, maen nhw eisiau cynnig help llaw ar ôl gweld y straeon hollol erchyll ar y newyddion dros yr wythnosau diwethaf.
“Diolch eto i Goleg Cambria, rydyn ni’n gallu paratoi’r tŷ yn barod ar eu cyfer nhw a’u helpu nhw i ddod i arfer gyda’r wlad yma ar ôl cyfnod trawmatig iawn.”
Roedd Amy wrth ei bodd ei bod hi’n gallu helpu Sarah ac mae hi’n dymuno pob lwc iddyn nhw dros y misoedd nesaf.
“Mae’r hyn maen nhw’n ei wneud yn hollol anhunanol, mae’n hyfryd ac roedden ni methu â pheidio gwneud y gwaith,” ychwanegodd hi.
“Rydyn ni wrth ein boddau y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth ac yn dod â chysur i rywun sydd wirioneddol ei angen yn ystod y cyfnod dychrynllyd yma i bobl Wcráin.”
Er mwyn gweld rhagor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i’r wefan: https://www.cambria.ac.uk/?lang=cy.