Llywodraethwyr

A group of governors sat down in smart clothes having a discussion

Mae Bwrdd Llywodraethu y Coleg (a elwir hefyd yn Fwrdd y Gorfforaeth) yn cynnwys 21 Aelod sydd a phrofiad o nifer o feysydd ag ystod eang o sgiliau ac arbenigedd. Mae dau Lywodraethwr Myfyrwyr, dau Lywodraethwr Staff a Llywodraethwr Cyswllt – Partneriaeth Gymdeithasol ymysg yr aelodau.

Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am reoli’r coleg yn effeithlon, gan gynnwys:

  • Penderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad a goruchwylio ei weithgareddau
  • Defnyddo adnoddau yn effeithiol ac yn effeithlon, solfedd y sefydliad a diogelu ei asedau
  • Cymeradwyo’r amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant
  • Penodi, graddio, afarnu, atal, diswyddo a phenderfynu cyflog ac amodau gwasanaeth deiliaid swyddi uwch a’r Swyddog Llywodraethu a Chlerc y Bwrdd
  • Gosod fframwaith ar gyfer cyflog ac amodau gwasanaeth yr holl staff eraill

Mae’r cyfrifoldebau hyn wedi’u nodi yn Erthyglau Llywodraethu’r Coleg fel yr amlinellir yn Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Cambria (Llywodraeth) 2013. Cadeirydd y Corff Llywodraethu yw’r Athro Tim Wheeler. Mae Prif Swyddog Gweithredol Coleg Cambria, Yana Williams, hefyd yn aelod o’r Corff Llywodraethu.

Cod Ymddygiad ar gyfer Llywodraethwyr Coleg Cambria

Mae pob aelod yn cytuno i lynu wrth y Cod Ymddygiad pan fyddant yn derbyn eu swydd fel aelod o’r Corff Llywodraethu neu aelod cyfetholedig o bwyllgor. Maent hefyd yn cytuno i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan).  Mae rôl Llywodraethwr yn un gwirfoddol, di-dâl.

Pwyllgorau

Cefnogir y Corff Llywodraethu gan y Pwyllgorau canlynol:

  • Pwyllgor Archwilio a Risg: sydd yn goruchwylio prosesau rheoli risg a rheolaeth fewnol y Coleg ac yn monitro gwaith y gwasanaethau archwilio mewnol ac allanol.
  • Pwyllgor Cwricwlwm a Safonau: sydd yn canolbwyntio ar faterion cwricwlwm, gan gynnwys cynllunio a pherfformiad cwricwlwm, darpariaeth cymorth i ddysgwyr, ansawdd a phrosesau gwelliant parhaus.
  • Pwyllgor Cyllid, Pobl a Diwylliant: sydd yn monitro ac yn adolygu ystod o feysydd gan gynnwys Adnoddau Dynol, datblygiad proffesiynol, cyllid, ystadau a phrosiectau cyfalaf.
  • Pwyllgor Taliadau: sydd yn ystyried materion sy’n ymwneud â pherfformiad, cyflog ac amodau deiliaid swyddi uwch a’r Swyddog Llywodraethu.
  • Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu: sydd yn goruchwylio’r broses ar gyfer recriwtio Llywodraethwyr, yn monitro proffil amrywiaeth a sgiliau’r Bwrdd, yn ystyried cynllunio olyniaeth ynghyd â hyfforddiant a datblygiad Llywodraethwyr a materion llywodraethu eraill.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost