Prosiectau Presennol
Canolfan Ragoriaeth Gofal Iechyd a Therapïau, Coleg Cambria Iâl
Bydd y cyfleuster gwerth £14 miliwn hwn, sydd o’r radd flaenaf, yn cynnwys sba a bar sudd masnachol o safon diwydiant wedi’i ddodrefnu’n llawn, gan roi cyfle i ddysgwyr weithio a hyfforddi ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn ogystal â wardiau iechyd efelychiedig ac amgylcheddau Rhithrealiti.
Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2024.
Fideo animeiddiad cyfrifiadurol
Cliciwch y fideo isod i weld ein cynlluniau’n dod yn fyw!
Hwb Cynaliadwyedd Dyfodol Ffermio yng Ngholeg Cambria Llysfasi
Bydd Hwb Cynaliadwyedd Dyfodol Ffermio yng Ngholeg Cambria Llysfasi yn cynnwys labordai pridd, theatr arddangos, caffi a pharthau dysgu i gynorthwyo ein dysgwyr a’r gymuned ehangach yn llawn gan ganolbwyntio ar ffermio cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd yr Hwb hefyd yn galluogi partneriaid diwydiant ym meysydd peirianneg, coedwigaeth a rheoli cefn gwlad i ddangos y dechnoleg ddiweddaraf a datblygiadau yn eu diwydiannau.
Bydd gwaith yn dechrau ar y datblygiad newydd sbon hwn gwerth £8 miliwn ym mis Gorffennaf 2023 a bydd yn cael ei gwblhau ym mis Hydref 2024.
Fideo animeiddiad cyfrifiadurol
Cliciwch y fideo isod i weld ein cynlluniau’n dod yn fyw!