main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

IndCadets1 (1)

Mae’r ‘Cadetiaid’ o safle Glannau Dyfrdwy’r coleg wedi llwyddo i gael 20 Gwobr Aur a 15 Gwobr Herwyr trwy’r rhaglen, sy’n farc safon i ysgolion a myfyrwyr sy’n chwilio am gyfleoedd STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) gwerthfawr a chyffrous. 

Cafodd y wobr ‘Ymdrech Orau’ ei hennill gan Ryan Reid, a oedd yn cynrychioli Atlas Copco, ac enillodd y dysgwyr a oedd yn gweithio gyda Triumph Actuation Systems y wobr tîm.

Dros y flwyddyn academaidd lawn mae cyfranogwyr wedi gweithio gydag enwau blaenllaw mewn peirianneg a gweithgynhyrchu a chawsant y dasg o ddarganfod datrysiadau a syniadau ar gyfer heriau cyn eu cynhyrchu neu eu cyflwyno nhw i’w cyflogwyr a’u mentoriaid.

Ymhlith y cwmnïau eraill a gymerodd rhan oedd Ardagh, AMRC Cymru, ConvaTec, Magellan Aerospace, TATA, Electroimpact, ESD, DRB, UPM Shotton, JCB a Kellogg’s.

“Roedd hi’n ddiwrnod gwych ac roedd hi’n ysbrydoledig gweld sut y maen nhw wedi datblygu eu sgiliau technegol, ymarferol ac academaidd gyda Cambria a’r sefydliadau anhygoel yma,” meddai Nick Tyson, Is-bennaeth Technoleg, Peirianneg ac Adeiladu.

“Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi mynd ymlaen i gael prentisiaethau gyda’u cyflogwyr, felly mae’n dangos bod y rhaglen yn werthfawr.”

Ychwanegodd: “Dyma oedd ein grŵp llawn cyntaf, ac mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn gan ei fod wedi rhoi’r cyfle i ddysgwyr i brofi bywyd go iawn gyda sefydliadau anhygoel mewn sectorau amrywiol, o gynhyrchu bwyd i weithgynhyrchu, peirianneg a rhagor.”

Ymysg y rhai a oedd yn bresennol oedd cyn-fyfyriwr Cambria Jack Parry, o Fagillt, sydd wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf ar Brentisiaeth Rheoli Prosiectau gyda Raytheon UK ym Mrychdyn, sef cwmni technoleg byd eang sy’n canolbwyntio ar awyrofod, amddiffyn, seiber a chudd-wybodaeth.

Roedd dewis gan Jack sy’n 20 oed i fynd i astudio peirianneg yn y brifysgol, ond ar ôl gadael Ysgol Gyfun Gatholig Sant Richard Gwyn, Sir y Fflint, penderfynodd fynd i Ganolfan Rhagoriaeth Peirianneg Cambria sydd wedi ennill gwobrau.

“Cyflwynodd Jack yn anhygoel ac mae’n esiampl o sut allai ein partneriaethau gydag arweinwyr yn y diwydiant ddarparu cam cyntaf i yrfa anhygoel mewn STEM,” meddai Nick.

“Da iawn unwaith eto i’r holl raddedigion, mae gan bob un ohonoch chi ddyfodol disglair o’ch blaenau chi.”

Mae’r rhaglen wedi’i harwain gan yr elusen addysgol Ymddiriedolaeth Datblygu Peirianneg (EDT), ac yn feincnod diwydiannol ar gyfer allgymorth ac addysg, gan feithrin llwybrau trwy faes academia a chyflogaeth. Ei noddwr yw Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.etrust.org.uk/industrial-cadets

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost