main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

dandys2

Wedi’i drefnu gan Jack Sargeant, AS Alyn a Glannau Dyfrdwy, gwnaeth Dandy’s Topsoil and Landscape Supplies, sydd wedi’u lleoli yng Ngwlad-y-Môr, gyfraniad caredig o wrtaith rhisgl i’r ‘coridor bywyd gwyllt’ a’r ardd llesiant yng Ngholeg Cambria Glannau Dyfrdwy.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Adam Dandy: “Rydyn ni mor falch y bydd ein rhodd yn helpu i drawsnewid yr ardal dyfu newydd yn y coleg.

“Rydyn ni’n adnabyddus am ein rhoddion i ysgolion cynradd lleol, ond mae colegau a llefydd addysg uwch yn aml yn cael eu hanwybyddu.

“Rydyn ni’n falch fod Jack wedi cysylltu â ni ac rydyn ni’n fwy na pharod i helpu’r coleg i greu cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr trwy’r man llesiant newydd – da iawn Coleg Cambria am ei arloesedd mewn addysg a dod â hynny i’r awyr agored.”

Dechreuodd dysgwyr Twf Swyddi Cymru+, staff ac aelodau’r Academi Hyfforddeion Adeiladu weithio ar y safle 40 metr sgwâr dros flwyddyn yn ôl, gyda chymorth Cadwch Gymru’n Daclus a’i brosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Ar ôl derbyn nawdd hefyd gan Monkey Lady Corporate Wear, plannodd y grŵp dros 100 o goed, blodau gwyllt, a dolydd, 2000 o fylbiau brodorol, llwyni a mwy.

Dywedodd y cymhorthydd dosbarth Brian Valentine, oedd yn brif ysgogwr y cynllun: “Rydyn ni mor ddiolchgar i Dandy’s am y rhodd garedig hon, mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i’r prosiect.

“Mae’r ardd wedi siapio go iawn dros y misoedd diwethaf felly hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i ni.”

Ewch i’r wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/nature.

Am y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf o Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost