Home > Ynghylch > Amdanom Ni > Tîm Arwain > Prif Swyddog Gweithredu’r Is-gyfarwyddiaeth
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Ann â’r Coleg yn Ebrill 1993 fel Nyrs Feithrin. Cyn hyn, bu Ann yn gweithio fel nani preifat. Dros y 12 mis nesaf llwyddodd Ann i ddod yn Rheolwr Meithrinfa sydd bellach yn rheoli’r feithrinfa yng Nglannau Dyfrdwy. Mae ganddi wybodaeth a phrofiad helaeth o ddatblygu gofal plant ac mae’r feithrinfa wedi cyflawni arolygiadau rhagorol gan ESTYN ac AGC dros y blynyddoedd.
Ar ôl dechrau’i yrfa yn gweithio mewn siop fferm yn 17 oed, aeth Matt ymlaen i wneud enw iddo’i hun yn Horseradish Catering yng nghae ras Caer, lle cododd drwy’r rhengoedd i fod yn arweinydd gweithredol yn 2015. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bu Matt yn arwain tîm rheoli arlwyo a groesawai ymhell dros filiwn o ymwelwyr y flwyddyn, ar draws sawl lleoliad. Ymunodd Matt â’r coleg yn gynnar yn 2021. Mae gan Matt brofiad lletygarwch helaeth yn sgil rheoli mewn lleoliadau sy’n cynnwys bwytai, undebau myfyrwyr, canolfannau cynadledda a gwestai.
Mae Sarah wedi gweithio i’r Coleg ers 2012. Mae hi’n rheolwr salon profiadol, ac roedd yn arfer gweithio fel rheolwr sba ac mewn sbas moethus pen ucha’r farchnad ledled y wlad. Mae gan Sarah hanes o weithio ym maes rheoli addysg ac mae ganddi sgiliau rhagorol mewn asesu, sicrhau ansawdd mewnol, annog a datblygu dysgwyr. Mae Sarah yn fentor addysgu a dysgu yn y Coleg hefyd.
Cafodd Laura ei swydd fel Cyfarwyddwr Ansawdd ym mis Tachwedd 2021. Cyn hyn, bu’n gweithio i ddarparwr AB cyffredinol mawr yn Lloegr. Wrth weithio ym maes Addysg Bellach yn ystod ei gyrfa, mae’n deall pob agwedd o daith y dysgwr, ar ôl gweithio ym maes cymorth dysgu, cwricwlwm, ac ansawdd yn ddiweddarach. Mae profiad Laura hefyd yn allweddol i’w rôl fel llywodraethwr mewn coleg addysg bellach arbenigol annibynnol ym Manceinion, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer cefnogi pobl ifanc ag anawsterau dysgu, anableddau, anghenion iechyd cymhleth, ac awtistiaeth.
Ymunodd Lee â’r Coleg yn gynnar yn 2011, fel un o sylfaenwyr y Tîm Gwella Busnes. Mae wedi ennill ystod o brofiad Gwella Busnes ar ôl gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau a busnesau yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Mae’r profiad hwn wedi chwarae rhan allweddol yn esblygiad y Coleg. Mae Lee hefyd wedi bod yn rhan o strategaethau arloesi a phrosiectau gweithredu tactegol ar draws y Coleg ac mae’n aelod gweithgar o Grwpiau Tasg STEM ac Arloesedd y Coleg.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Simon â’r Coleg ym mis Hydref 1998. Daeth yn Rheolwr Arholiadau Coleg Iâl ym mis Awst 2008, ac yna daeth yn Rheolwr Arholiadau ar gyfer Coleg Cambria a wnaeth uno’n ddiweddar ym mis Mawrth 2015. Mae gan Simon brofiad helaeth o bopeth sy’n ymwneud ag arholiadau/cyrff dyfarnu, ac mae’n ymdrechu’n barhaus i wella systemau mewnol i sicrhau bod y gwasanaeth cwsmeriaid a ddarperir i fyfyrwyr ac aelodau staff fel ei gilydd o’r ansawdd uchaf.
Mae Jane wedi gweithio yn y Coleg ers 2006 gan ddechrau fel Gweinyddydd ar gontract cyfnod penodol o 6 mis. Yn dilyn hyn, symudodd ymlaen i fod yn Oruchwyliwr Swyddfa, yn Swyddog Hawliadau a Monitro, yn Gydlynydd Ariannu Allanol ac wedyn yn Rheolwr Gweithrediadau Gwasanaethau Data Dysgwyr ym mis Medi 2023. Mae Jane yn angerddol am lwyddiant y Coleg a’r cyfleoedd y mae’n eu darparu i unigolion o ran datblygu sgiliau a gwybodaeth i wella dysgu a llwybrau gyrfa.
Dewch i gyfarfod â’n uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn hynod angerddol am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel gyrwyr datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Ymunodd Andrew â’r coleg yn 2001 ar ôl astudio yn y coleg wrth gwblhau prentisiaeth. Mae wedi cael swydd fel Rheolwr Seilwaith ar ôl gweithio fel swyddog cymorth Rhwydwaith ers sawl blwyddyn. Mae Andrew wedi arwain ar lawer o brosiectau allweddol, a bydd yn parhau i wneud hynny gan sicrhau bod seilwaith y coleg yn cael ei gadw’n gyfredol ac yn ddiogel wrth arwain y tîm cymorth.
Ar ôl gadael y brifysgol, dechreuodd Graeme weithio yng Ngholeg Llysfasi fel Technegydd TG cyn cael ei ddyrchafu’n Swyddog TG ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn dilyn yr uno a greodd Coleg Cambria, daeth Graeme yn arweinydd Technoleg TG ar gyfer safle Iâl a Ffordd y Bersham. Mae gan Graeme dros 25 mlynedd o brofiad mewn dylunio, gweithredu a rheoli systemau TG i’w defnyddio yn y sector addysg ac ar hyn o bryd mae’n arbenigo mewn darparu datrysiadau technoleg trwy wasanaethau cwmwl. Mae’n mwynhau cefnogi staff a myfyrwyr Coleg Cambria ar eu taith dechnolegol.
Dewch i gyfarfod yr uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am rôl addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Treuliodd Dawn 16 mlynedd yn gweithio mewn nifer o rolau cyfrifeg i fanwerthwr bwyd cenedlaethol ac mae’n aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheolaeth. Ymunodd â’r Coleg fel Rheolwr Cyllid a thrwy dwf y coleg, datblygodd ei rôl i fod yn Gyfrifydd Rheolaeth. Yn 2021, cafodd Dawn swydd fel Rheolwr Cyllid yn Cambria ac mae’n angerddol am weithio ar draws y sefydliad, gan ddarparu cymorth i ddeiliaid cyllidebau a sicrhau bod y Coleg yn cyflawni ei amcanion ariannol.
Dewch i gyfarfod â’r uwch dîm arwain. Mae ein tîm arwain yn cynnwys ein Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr – Prif Swyddog Gweithredu, Dirprwy Brif Weithredwr – Profiadau Pobl a Diwylliant, Dirprwy Brif Weithredwr – Pennaeth ac Uwch Reolwyr.
Gyda’i gilydd, maent yn arwain y coleg i gyflawni ein gweledigaeth strategol. Maent yn angerddol iawn am swyddogaeth addysg, hyfforddiant a sgiliau fel rhai sy’n llywio datblygiad economaidd a chyfiawnder cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.