Diploma UAL Lefel 2 yn y Cyfryngau

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00384
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfryngau – o ffotograffiaeth a ffilm i animeiddio, graffeg a dylunio gemau? Os ydych chi'n awyddus i ddatblygu eich sgiliau cyfryngau creadigol ond heb fawr o brofiad blaenorol, y cwrs hwn ydy eich man cychwyn perffaith!

Mae ein Diploma Cyfryngau Creadigol yn rhaglen ddeinamig, sy'n seiliedig ar ymarfer, wedi'i llunio i herio a datblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi ar gyfer dyfodol llwyddiannus yn y cyfryngau.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth gadarn o'r diwydiant cyfryngau ac yn datblygu nifer o sgiliau ymarferol. Byddwch chi’n dechrau arni gyda "Bŵt-camp" cychwynnol cyn camu i mewn i 7 uned graidd. Yna, byddwch chi’n arbenigo mewn maes sydd wirioneddol o ddiddordeb i chi, gan ddewis o ystod eang o ddisgyblaethau gan gynnwys:

- Gwneud ffilmiau
- Golygu fideo
- Ysgrifennu sgriptiau
- Creu cynnwys
- Animeiddio
- Ffotograffiaeth
- Dylunio gemau
- Darlunio digidol
- Dylunio graffeg
- Cyfryngau print digidol
- Cynhyrchu podlediadau.

Byddwch chi’n creu cyfryngau deniadol ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol ar draws sawl platfform, gan ddefnyddio ein cyfleusterau safon diwydiant. Rhowch gynnig arni yn ein hystafell sgrin werdd, stiwdio ffilm, stiwdio ffotograffiaeth, ardal animeiddio, ac ystafell bodlediadau. Byddwch chi hefyd yn gweithio yn ein stiwdios Mac, gan feistroli meddalwedd fel Adobe Premiere Pro, Final Cut Pro, Adobe Photoshop, Adobe Illustrator, a Logic Pro.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg. NEU gwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus sy’n rhaid cynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Dyma gymhwyster sy’n seiliedig ar waith cwrs, ac felly nid oes arholiadau ffurfiol. Byddwch chi’n cael eich asesu drwy gydol y flwyddyn yn erbyn meini prawf clir a fydd yn cael eu rhannu gyda chi cyn dechrau pob uned.
Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, byddwch chi’n cyflawni Diploma Lefel 2 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol. Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi chi i symud ymlaen i’n cwrs Lefel 3 mewn Cynhyrchu Cyfryngau neu sicrhau swydd lefel mynediad yn y diwydiant cyfryngau cyffrous.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost