Diploma UAL Lefel 3 yn y Cyfryngau

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00386
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs dwy flynedd llawn amser.
Adran
Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i ddatgloi eich potensial creadigol a lansio gyrfa ddeinamig yn y diwydiant cyfryngau? Mae ein Diploma Lefel 3 mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol wedi'i gynllunio ar gyfer darpar grewyr cynnwys, gwneuthurwyr ffilmiau, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol cyfryngau fel chi! Bydd y cwrs cyffrous, amlddisgyblaethol hwn yn eich herio chi i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw, gan eich paratoi chi ar gyfer hunangyflogaeth neu astudiaeth bellach yn y brifysgol.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth gadarn o'r diwydiant cyfryngau ac yn datblygu nifer o sgiliau ymarferol trwy brofiadau ymarferol. Bydd ein "Bŵt-camp" cychwynnol yn eich cyflwyno chi i ystod eang o ddisgyblaethau cyn i chi arbenigo yn eich maes dewisol.

Mae'r cwrs hwn yn edrych ar amrywiaeth o bynciau cyffrous, gan gynnwys:
* Gwneud ffilmiau
* Golygu fideo
* Ysgrifennu sgriptiau
* Creu cynnwys
* Animeiddio
* Ffotograffiaeth
* Dylunio gemau
* Darlunio digidol
* Dylunio graffeg
* Cyfryngau print digidol
* Cynhyrchu podlediadau

Byddwch chi’n creu cyfryngau ystyrlon ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol ar draws sawl platfform, gan ddefnyddio ein cyfleusterau safon diwydiant. Dychmygwch eich hun yn ein hystafell sgrin werdd, stiwdio ffilm, stiwdio ffotograffiaeth, ardal animeiddio, ac ystafell radio! Byddwch chi hefyd yn gweithio yn ein stiwdios Mac, gan feistroli meddalwedd fel Adobe Premiere Pro, Final Cut Pro, Adobe Photoshop, Adobe Illustrator, a Logic Pro.

A’i Dyma’r Cwrs i Chi?
Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n angerddol am weithio yn y diwydiant cyfryngau fel crëwr cynnwys llawrydd neu sy'n symud ymlaen i astudiaeth bellach o'r cyfryngau ar lefel gradd. Er nad oes angen profiad blaenorol yn y cyfryngau arnoch chi, mae diddordeb gwirioneddol yn y cyfryngau yn hanfodol. Dylech chi hefyd fwynhau cydweithio ag eraill, datblygu eich syniadau creadigol eich hun, a bod yn ddysgwr annibynnol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg. NEU gwblhau cymhwyster Lefel 2 perthnasol yn llwyddiannus sy’n rhaid cynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi chi i symud ymlaen at gwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n cael eich asesu drwy gydol y flwyddyn yn erbyn meini prawf clir ar gyfer pob uned, gyda’r holl waith yn cael ei asesu’n fewnol a’i wirio gan gymedrolwr ymweld – felly nid oes arholiadau ffurfiol. Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, byddwch chi’n cyflawni Diploma Lefel 2 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol.
Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi’ch paratoi i ddilyn amrywiaeth o rolau yn y diwydiant cyfryngau neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun fel crëwr cynnwys llawrydd! Os cewch chi eich gradd derfynol ofynnol, gallwch chi ddefnyddio’r cymhwyster hwn i gael mynediad uniongyrchol i brifysgol ar gyfer astudiaeth lefel gradd. Mae hefyd yn darparu llwybrau i raglenni prentisiaeth uwch.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost