Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Lefel 1 mewn Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP50024 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Dysgu Sylfaen, Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth, Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan |
Dyddiad Dechrau | 02 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Barod i gymryd eich cam cyntaf i fyd cyffrous cerddoriaeth, perfformio a chynhyrchu? Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i danio'ch creadigrwydd ac adeiladu'r sgiliau hanfodol y bydd eu hangen arnoch chi i ddisgleirio yn y celfyddydau perfformio.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi’n cael cyflwyniad cryf i'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a fydd yn rhoi hwb i'ch hunanhyder ac yn agor eich llygaid i'r cyfleoedd gyrfa anhygoel o fewn y diwydiannau creadigol. Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth, perfformio a chelfyddydau cynhyrchu, gan eich helpu i archwilio'r dulliau a'r prosesau sy'n dod â pherfformiadau'n fyw.
Dyma flas o’r hyn y byddwch chi’n ei wneud:
*Datblygu sgiliau actio, lleisiol a symud hanfodol ar gyfer perfformio.
*Ennill profiad mewn gweithrediadau technegol y tu ôl i'r llwyfan.
*Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol sy'n ymarfer yn y diwydiant.
Mynd ar ymweliadau addysgol i gefnogi eich dysgu.
Byddwch chi’n datblygu eich creadigrwydd ac yn adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflwyniad llwyddiannus i bob maes o'r Diwydiannau Creadigol, a bydd yn eich paratoi i symud ymlaen i gwrs Lefel 2.
Cefnogaeth ar gyfer Eich Llwyddiant
Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd trwy gydol y rhaglen. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.
Byddwch chi’n cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eich cefnogi chi bob cam o'r ffordd. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol ar waith cyn i chi ddechrau ar eich cwrs. Byddan nhw hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eich rhaglen i’ch helpu chi i lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith gyntaf) a Mathemateg.
Rhaid i’r holl ymgeiswyr gymryd rhan mewn gweithdy mynediad hefyd, ac mae’n rhaid bod yn bresennol a’i gwblhau’r llwyddiannus.
Ar gyfer yr holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen mynediad, mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd pob un o’r targedau yn eich CDU.
Yma yng Ngholeg Cambria rydym ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai arwain at gael mynediad ar gwrs lefel uwch.

I gyflawni’r cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi lwyddo ym mhob un o’r chwe uned. Mae’r uned olaf, sef y Prosiect Cerddoriaeth, Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu, yn caniatáu ichi ddangos popeth rydych chi wedi’i ddysgu. Rhoddir graddau Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ar gyfer y prosiect yma, sy’n pennu’r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Os ydych chi am barhau â’ch astudiaethau a gwneud cynnydd, gallwch chi symud ymlaen i gymhwyster Lefel 2 mewn pwnc tebyg, fel Celfyddydau Perfformio neu Gerddoriaeth. Bydd y cymwysterau hyn hefyd yn eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth gyffrous yn y diwydiannau creadigol.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025