Lefel 1 Iechyd, Cymdeithasol a Gofal Plant

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01371
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Dysgu Sylfaen, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf at yrfa wobrwyol mewn iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant? Mae’r cwrs Lefel 1 hwn wedi’i lunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau, rhinweddau ac agweddau hanfodol y mae cyflogwyr yn edrych amdanyn nhw yn y diwydiannau gofal ac addysg.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:

Bydd y cwrs hwn yn eich cyfarparu gyda sylfaen gadarn yn y sector ac yn ymdrin â phynciau allweddol fel:
*Cyflwyniad i weithio mewn gofal iechyd, gofal oedolion a gofal plant
*Deall datblygiad plentyn
*Datblygu sgiliau mewn gofalu am blant ifanc.

Byddwch hefyd yn ennill sgiliau trosglwyddadwy hanfodol ar gyfer dysgu a gwaith yn cynnwys:
*Sgiliau, rhinweddau ac agweddau effeithiol ar gyfer dysgu a gwaith
*Symud ymlaen gyda’ch gyrfa
*Gweithio fel rhan o dîm.

Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar hybu eich llythrennedd a'ch rhifedd. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu Bydd gennych Anogwr Cynnydd ymroddedig i’ch helpu gyda’ch siwrnai gan wneud yn siŵr fod unrhyw ofynion cymorth yn cael eu cyflawni fel eich bod yn llwyddo.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, sy’n gorfod bod mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos y potensial i weithio’n annibynnol ac yn ddiogel mewn lleoliadau.

I ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen Mynediad – mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd pob un o’r targedau yn eich Cynllun Datblygu Unigol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Byddwch yn cyflawni’r cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a fydd o bosib yn cynnwys prosiectau, taflenni neu aseiniadau ysgrifenedig.
Gall y cymhwyster Lefel 1 hwn agor drysau i gyfleoedd cyffrous a’ch helpu i symud ymlaen at gwrs lefel uwch neu ennill cyflogaeth mewn sawl diwydiant. Yn y sector hwn gallwch fynd am swyddi fel ymarferydd meithrinfa, nyrs neu weithiwr gofal. Byddwch yn cael eich paratoi’n dda ar gyfer prentisiaethau neu gyflogaeth llawn amser.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost