Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00084 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Dysgu Sylfaen, Chwaraeon a Ffitrwydd, Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai |
Dyddiad Dechrau | 02 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi’n barod i edrych ar yrfa gyffrous mewn chwaraeon neu wasanaethau cyhoeddus? Y cwrs hwn yw eich cam cyntaf at yrfa wobrwyol os ydych yn breuddwydio am ymuno â’r lluoedd arfog, dod yn swyddog yr heddlu, gweithio yn y gwasanaeth tân neu ystyried gyrfa mewn chwaraeon a hyfforddiant.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cwrs hwn wedi’i lunio fel cyflwyniad i'r sectorau Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol a fydd yn eich helpu bob dydd ar y cwrs ac yn eich gyrfa ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn barod i:
*Gymryd rhan mewn chwaraeon egnïol a hyfforddiant
*Gwella eich ffitrwydd trwy sesiynau ymarferol yn cynnwys gweithgareddau awyr agored cyffrous
*Ennill gwybodaeth gan arbenigwyr yn y diwydiant a fydd yn rhannu eu profiad o weithio mewn gwasanaethau cyhoeddus yn y byd go iawn
Mi fyddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar roi hwb i’ch sgiliau Saesneg a Mathemateg Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.
Eich Siwrnai gyda Ni
Rydyn ni yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd! Bydd gennych chi Anogwr Cynnydd pwrpasol a fydd yn eich helpu drwy gydol eich amser ar y cwrs. Mi fyddan nhw’n gwneud yn siŵr fod cymorth ar gael i chi cyn dechrau’r cwrs ac yn parhau i’ch helpu gydag unrhyw anghenion newydd all godi er mwyn eich helpu chi lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.
Byddwch yn dod i’r coleg deirgwaith yr wythnos lle bydd cymysgedd o sesiynau diddorol yn yr ystafell ddosbarth a dysgu ymarferol dan do ac yn yr awyr agored.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Gymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.
I ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen Mynediad, mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg ac wedi cyrraedd pob un o’r targedau yn eich Cynllun Datblygu Unigol.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Byddwch yn dangos yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu trwy amrywiaeth o ddulliau yn cynnwys asesiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, tasgau cynllunio a threfnu ac arsylwadau.
Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch chi’n barod i gymryd eich cam nesaf! Gallwch:
*Symud ymlaen at gwrs Lefel 2 perthnasol mewn chwaraeon neu wasanaethau cyhoeddus
*Symud ymlaen i ddilyn rhaglen Twf Swyddi Cymru+
*Dechrau prentisiaeth
*Dechrau ar eich siwrnai i gyflogaeth.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025