Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01015 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Dysgu Sylfaen, Trin Gwallt a Thorri Gwallt Dynion |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i gymryd eich cam cyntaf i fyd cyffrous gwallt? Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n chwilio am gyflwyniad i'r sector gwallt, gan eich helpu i ennill y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Byddwch chi’n datblygu sgiliau trin gwallt hanfodol a sgiliau cyflogadwyedd pwysig a fydd yn eich helpu chi i symud ymlaen yn y diwydiant. Byddwch yn barod i neidio i mewn i weithdai ymarferol i fireinio'ch technegau, ochr yn ochr â damcaniaeth yn yr ystafell ddosbarth i adeiladu'ch gwybodaeth.
Mae pynciau’r cwrs yn cynnwys:
*Datblygu technegau trin gwallt mewn gweithdai ymarferol
*Adeiladu gwybodaeth hanfodol drwy theori ystafell ddosbarth
*Gwella eich sgiliau llythrennedd a rhifedd
Mae llythrennedd a rhifedd yn ganolbwynt craidd y rhaglen hon. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu.
Rydyn ni yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd! Byddwn ni’n pennu Anogwr Cynnydd i chi, a fydd yn eich helpu chi drwy gydol eich amser ar y rhaglen. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi ar waith cyn i chi ddechrau, a byddan nhw'n addasu eich rhaglen os bydd anghenion newydd yn codi, gan eich helpu chi i gyflawni eich nodau. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).
I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o gwrs Mynediad, rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster Lefel Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n cyflawni’r cymhwyster trwy gwblhau gwaith cwrs a fydd yn cael ei asesu’n fewnol. Gallai hyn gynnwys tasgau cyffrous fel prosiectau, creu taflenni, neu aseiniadau ysgrifenedig.
Agorwch ddrysau i gyfleoedd newydd cyffrous yn y diwydiant gwallt! Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi’ch arfogi i ddilyn swyddi mewn trin gwallt, symud ymlaen i gwrs Lefel 2, neu hyd yn oed ystyried prentisiaeth neu gyflogaeth llawn amser.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025