Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP87953 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, Dysgu Sylfaen, Sgiliau Byw’n Annibynnol |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n gadael yr ysgol gydag anghenion cyfathrebu cymdeithasol fel Awtistiaeth ac yn angerddol am y cyfryngau, celf ddigidol neu gyfrifiaduron? Mae ein cwrs NiwroGyfryngau ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria ar eich cyfer chi!
Mae'r rhaglen gynhwysol hon gyda chefnogaeth lawn (blwyddyn o hyd) yn cynnig amgylchedd dysgu sy'n deall ac yn diwallu eich anghenion yn wirioneddol fel eich bod yn gallu cyflawni eich nodau yn y dyfodol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Nod y cwrs yw eich helpu i edrych ar fyd cyffrous y cyfryngau ac i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer eich dyfodol.
*Archwilio'r Cyfryngau: Byddwch yn cael eich cyflwyno i bynciau cyfryngau craidd a fydd yn rhoi blas i chi o wahanol feysydd i’ch helpu chi benderfynu ar eich camau nesaf.
*Sgiliau Bywyd i fod yn Llwyddiannus: Mae rhan allweddol o'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar sgiliau bywyd ymarferol gan gynnwys cyflogadwyedd, iechyd a lles, ymgysylltu â'r gymuned a byw'n annibynnol.
*Profiad yn y Byd Go Iawn: Byddwch yn cael rhoi cynnig ar sesiynau blasu’r diwydiant mewn grŵp a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol mewn amgylchedd gwaith go iawn.
*Sgiliau Hanfodol: Byddwch yn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Mathemateg a Saesneg ar eich lefel waith eich hun.
Eich Amgylchedd Waith
Rydyn ni’n credu mewn cymorth personol a gofod dysgu cyfforddus:
*Dyma raglen sydd wedi'i chefnogi'n llawn ac wedi'i theilwra ar eich cyfer chi.
*Byddwch yn elwa o gyfnod pontio personol gyda mentor ASD.
*Byddwch yn y coleg am dridiau’r wythnos.
*Er mwyn sicrhau fod cymorth â ffocws iddo ar gael ni chaniateir mwy na 10 dysgwr ymhob gwers yn ein hystafelloedd dosbarth pwrpasol.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod â diddordeb yn y maes pwnc a bod ganddynt Gynllun Datblygu Unigol neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal cyfredol sy’n amlinellu anhawster cyfathrebu cymdeithasol cymhleth gyda diagnosis o Awtistiaeth.
Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro trwy dasgau parhaus ac adborth tiwtor. Byddwn yn defnyddio asesiadau sylfaenol ac yn adolygu eich targedau unigol i wneud yn siŵr eich bod ar y trywydd iawn.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch wedi eich paratoi ar gyfer cyrsiau addysg bellach prif ffrwd, symud ymlaen at gyflogaeth, neu ddechrau interniaeth â chymorth yn eich sector o ddewis.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025