Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01418
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Y cwrs hwn ydy eich cam cyntaf i fyd cyffrous adeiladu, gan gynnig rhaglen wedi’i chefnogi’n llawn sydd wedi’i chynllunio i'ch helpu chi i lwyddo. Byddwch chi'n ennill hyder, yn datblygu sgiliau bywyd hanfodol, ac yn archwilio gwahanol grefftau adeiladu mewn amgylchedd croesawgar.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu:
Bwriad y rhaglen hon ydy’ch helpu chi i wella'n bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd, gan eich paratoi chi ar gyfer eich lefel nesaf o ddysgu neu swydd yn y dyfodol. Byddwch chi’n datblygu eich hyder, eich sgiliau bywyd a sgiliau cyflogadwyedd mewn awyrgylch cefnogol a chroesawgar.

Byddwch chi’n ennill profiad ymarferol amhrisiadwy yn ein gweithdai ymarferol a fydd yn edrych ar feysydd fel:
*Gosod Brics
*Gwaith Saer ac Asiedydd
*Sgiliau Plymwaith

Y tu hwnt i'r gweithdai, byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol mewn cyfathrebu, gwaith tîm ac arweinyddiaeth trwy weithgareddau cyfoethogi diddorol. Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i hybu eich hyder a'ch helpu chi i oresgyn unrhyw bryderon, a byddwch chi’n cyflawni cymwysterau Mynediad i'ch helpu chi i symud ymlaen y flwyddyn ganlynol.

Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar hybu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, a phan fyddwch chi'n barod, bydd cyfle gennych chi i ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Yn ogystal â hyn bydd y cwrs yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn cynnig cyfleoedd naturiol i’ch helpu chi i wella eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Eich System Gymorth:
Bydd gennych chi Anogwr Bugeiliol pwrpasol a fydd yn eich cefnogi chi drwy gydol eich amser ar y rhaglen. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw gefnogaeth ddysgu angenrheidiol ar waith o'r cychwyn cyntaf ac yn addasu i unrhyw anghenion newydd a allai godi, gan eich helpu chi i gyflawni eich potensial llawn. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.

Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal dros dridiau'r wythnos ac yn cynnwys cymysgedd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ymarfer yn y gweithdy, a gweithgareddau oddi ar y safle.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddechrau ar y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n cwblhau asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd i’n helpu ni i ddeall eich anghenion a chefnogi eich taith ddysgu. Byddwch chi hefyd yn gweithio ar amrywiaeth o unedau i gyflawni eich cymwysterau, a fydd yn gyfuniad o dasgau ymarferol, arsylwi ac ysgrifenedig.
Drwy gydol y cwrs, byddwn ni’n eich helpu chi i gynllunio eich camau nesaf. Gallech chi symud ymlaen i:

*Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol adeiladu o’ch dewis chi
*TSC+
*Cyflogaeth
*Rhaglen yn y gymuned.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost