Lefel 1 mewn Peirianneg (Fecanyddol)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00248
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
31 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y cwrs ymarferol hwn yng Ngholeg Cambria yn eich helpu chi i ennill sgiliau hanfodol ar draws amrywiaeth o feysydd peirianneg. Byddwch chi’n datblygu sgiliau gwerthfawr mewn mesuriadau peirianneg, cyfrifiadau ac arferion iechyd a diogelwch hanfodol. Byddwn ni’n rhoi'r theori a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i ategu eich sgiliau ymarferol.

Mae'r cwrs hwn yn dilyn llwybr City & Guilds, a byddwch chi’n cwblhau'r holl unedau a restrir isod i gyflawni eich cymhwyster llawn:
*Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
*Ymgymryd â gweithgarwch peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
*Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol
*Gwneud cydrannau gan ddefnyddio offer llaw a thechnegau ffitio
*Defnyddio turniau ar gyfer gweithrediadau turnio
*Cydosod cylchedau electronig

Rhoi Hwb i’ch Sgiliau Craidd:
Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch helpu chi i gryfhau eich sgiliau llythrennedd a rhifedd drwy gydol y rhaglen. Byddwch chi’n cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.

Eich System Gymorth:

Byddwch chi’n cael Anogwr Cynnydd a fydd yno i'ch cefnogi chi bob cam o'r ffordd. Mi fyddan nhw’n sicrhau bod unrhyw gymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ar gael cyn i chi ddechau ac os bydd unrhyw anghenion cymorth newydd yn codi mi fyddan nhw’n cael eu hymgorffori yn eich rhaglen i’ch helpu chi lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg/Saesneg (Iaith gyntaf), neu’ch bod wedi cwblhau cymhwyster cyfwerth yn llwyddiannus.

I ddysgwyr sydd am symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o raglen Mynediad, mae’n rhaid i chi fod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen yn eich Mathemateg a’ch Saesneg, a bod wedi cyflawni’r holl dargedau yn eich cynllun dysgu unigol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n cael eich asesu’n barhaus trwy aseiniadau a gwblheir yma yn y coleg. Bydd y rhain yn ffurfio portffolio o dystiolaeth i fodloni gofynion y corff dyfarnu. Byddwch chi’n sefyll arholiadau ar-lein wedi eu gosod a’u marcio yn allanol ar adegau allweddol drwy gydol y cwrs.
Mae cyflogwyr yn y diwydiant Peirianneg Fecanyddol/Gweithgynhyrchu yn rhoi rhagor o werth ar Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) perthnasol. Gall y cwrs hwn arwain at gyflogaeth hyfforddai mewn amryw o ddisgyblaethau crefft cyffrous, gan gynnwys:

*Gosod
*Mecanyddol / Cydosod
*Peirianneg Drydanol

Os cewch chi swydd, efallai y bydd gennych chi gyfle i symud ymlaen i Lefel 2/3 Peirianneg Fecanyddol, a allai arwain at gwblhau prentisiaeth, yn dibynnu ar amodau eich cyflogwr.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost