Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma Gofal Tir Kubota

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01497
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs 3 blynedd, gyda chyfnodau bloc rhyddhau o’r gwaith.
Byddwch chi yn y coleg am naw bloc dros dair blynedd.
Bydd pob blwyddyn yn cynnwys tri bloc, yn dod i gyfanswm o ddeuddeg wythnos, i’w cyflwyno o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Adran
Peirianneg Amaethyddol, Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
02 Nov 2026
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Cynllun Prentisiaeth Kubota mewn Gofal Tir

Ydych chi'n barod i roi hwb i'ch gyrfa mewn peirianneg gofal tir? Mae'r Cynllun Prentisiaeth Kubota hwn yn bartneriaeth unigryw rhwng Kubota, y gwneuthurwr blaenllaw yn y byd, ac arbenigwyr addysg peirianneg amaethyddol, Coleg Cambria Llysfasi. Mae'r hyfforddiant hwn sydd wedi’i gymeradwyo gan y diwydiant, wedi’i lunio i alluogi peirianwyr gofal tir ifanc i symud ymlaen i swyddi mewn delwriaethau gofal tir Kubota ledled y Deyrnas Unedig.

Yr Hyn Fyddwch Chi'n Ei Ennill
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen arnoch chi i ragori yn y diwydiant peirianneg gofal tir. Byddwch chi’n astudio ystod eang o feysydd sy’n cynnwys iechyd a diogelwch, cyfrifiadau ar gyfer peirianneg gwasanaethau a phrosesau gweithdai. Byddwch chi’n dysgu sut i drwsio ystod o offer meysydd chwaraeon a gofal tir, gyriannau hydrostatig, systemau cerbydau, systemau trydanol a systemau hydrolig, yn ogystal â dysgu sut i brofi systemau electronig prawf a systemau trawsyriant. Byddwch chi hefyd yn darganfod sut i ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid rhagorol i gleientiaid a chyflenwyr.

Mae Prentisiaeth Kubota yn gyfle i “ennill cyflog wrth i chi ddysgu”. Drwy gymryd rhan yn llwyddiannus, byddwch chi’n cyflawni cymhwyster sydd wedi’i chymeradwyo gan y diwydiant, ochr yn ochr â meithrin sgiliau ymarferol ardderchog trwy gynllun y mae gwneuthurwr yn ei gefnogi ac yn ennill cyflog yr un pryd.


Sut y Byddwch chi’n Dysgu
Byddwch chi'n dysgu'n bennaf drwy sesiynau ymarferol yn ein gweithdy blaenllaw yn y sector, gan ddefnyddio'r ystod ddiweddaraf o offer gofal tir. Caiff y ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth ei chyfoethogi trwy amrywiaeth o deithiau, ymweliadau a siaradwyr gwadd. Byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau theori, gwaith unigol a grŵp, a thasgau ymarferol i wella eich dealltwriaeth. Mae'r cwrs yn cynnwys Hyfforddiant ar Gynnyrch gan y Gwneuthurwr gan ysgol hyfforddi Kubota.

Yn ogystal â hyn, byddwch chi’n cael y cyfle i fynd i’r afael ag asesiadau allanol i ennill tystysgrifau cymhwysedd gwerthfawr.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf) ac yn gweithio i ddelwriaeth Kubota fel peiriannydd gwasanaethau dan hyfforddiant.

Gellir ystyried profiad blaenorol ar gyfer dysgwyr hŷn. Bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Byddwch yn dangos eich dysgu yn barhaus drwy gydol y cwrs.

Bydd eich asesiadau’n cynnwys:
● Aseiniadau
● Arsylwadau ymarferol
● Profion bychain
● Arholiadau
● Asesiadau Synoptig

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth cyffrous o fewn delwriaethau Kubota ledled y DU. Gallech chi ennill swydd fel:
● Peiriannydd Gofal Tir
● Peiriannydd Gwasanaeth Maes
● Technegydd Gweithdy
● Marchnata a Gwerthu


Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.


Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost