Lefel 1 mewn Paratoi ar gyfer Astudio a Datblygu Gyrfa

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP52369
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n 19 oed neu'n hŷn ac yn barod i wella'ch sgiliau ar gyfer dyfodol mwy disglair? Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i’ch helpu i wella pa mor gyflogadwy ydych chi ac i ennill cymwysterau Mathemateg a Saesneg hanfodol er mwyn eich paratoi ar gyfer cwrs Mynediad i Addysg Uwch.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Drwy gydol y rhaglen byddwch chi hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Byddwn hefyd yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich camau nesaf drwy:
*Ddatblygu sgiliau astudio allweddol
*Rhoi mynediad i chi i'n Siop Swyddi ar gyfer cymorth gyrfa.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond dylai fod gan ymgeiswyr o leiaf dair blynedd o brofiad sgiliau bywyd yn dilyn addysg orfodol.

Mae pob dysgwr yn cael ei wahodd am gyfweliad ac mae gofyn iddynt gwblhau asesiad mathemateg a Saesneg cychwynnol i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gwblhau’r rhaglen.
Byddwn yn asesu eich dysgu a’ch cyflawniad trwy gydol y cwrs gan ddefnyddio nifer o wahanol ddulliau. Byddwch chi’n adeiladu portffolio o’ch gwaith a allai gynnwys taflenni gwybodaeth, posteri, traethodau ac adroddiadau.
Ar ôl gorffen y cwrs byddwch wedi eich paratoi’n dda ar gyfer:

*Mynediad at Addysg Uwch
*Cyfleoedd cyflogaeth gyffrous
*Cymryd rhan mewn prosiectau yn y gymuned.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost