Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00249
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser (3 diwrnod yr wythnos).


Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Sep 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i neidio i fyd Peirianneg?
Mae ein Rhaglen Cyn-Brentisiaeth Lefel 2 yn gwrs ymarferol a damcaniaethol sydd wedi'i gynllunio i roi hwb i'ch taith i yrfa Crefftau a Chynnal a Chadw.

Mae'n rhaglen 3 diwrnod yr wythnos gyda phwyslais cryf ar ddysgu ymarferol, byddwch chi’n ennill ystod eang o dechnegau peirianneg fecanyddol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.

Ar Gyfer Pwy Mae’r Cwrs Hwn?
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy'n symud ymlaen o'n rhaglen Lefel 1, neu'r rhai sydd â phedair TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf).
Byddwch chi’n ennill y cymwysterau sydd eu hangen i ymuno â'r diwydiant yn uniongyrchol ar Lefel 3 trwy Raglen Rhyddhau am y Diwrnod.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Byddwch chi'n datblygu sgiliau hanfodol drwy'r Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (7682-20).

Mae enghreifftiau o’r unedau’n cynnwys:
● Gweithio’n ddiogel mewn Amgylchedd Peirianneg
● Ymgymryd â gweithgarwch Peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
● Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol
● Cynhyrchu Cydrannau gan Ddefnyddio Technegau Ffitio â Llaw
● Paratoi a defnyddio turniau ar gyfer gweithrediadau turnio
● Cydosod a Phrofi Systemau Pŵer Hylif

Bydd gofyn i fyfyrwyr nad oes ganddyn nhw radd C/4 TGAU mewn Mathemateg a Saesneg fynd i sesiynau gorfodol i gefnogi hyn yn ogystal â’u rhaglen alwedigaethol.

Mae'r cwrs cyn-brentisiaeth hwn sy’n seiliedig ar theori a gwaith ymarferol yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ragori yn y sector Peirianneg.

Rhoi Hwb i’ch Sgiliau Craidd
Rydyn ni wedi ymrwymo i'ch llwyddiant, a dyna pam y byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol hanfodol. Os nad ydych chi wedi cyflawni gradd C/4 mewn TGAU Mathemateg a Saesneg eto, byddwch chi'n cael sesiynau cymorth hanfodol ochr yn ochr â'ch rhaglen alwedigaethol.

Profiad yn y Byd Go Iawn
Enillwch brofiad gwerthfawr sy'n gysylltiedig â gwaith drwy gydol eich rhaglen, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil mewn peirianneg.

4 TGAU gyda Mathemateg a Saesneg gradd D/3 neu uwch NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus .

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Bydd eich taith ddysgu yn y cwrs hwn yn cynnwys asesu parhaus trwy aseiniadau yn y coleg.

Bydd yr aseiniadau hyn yn cael eu llunio mewn portffolio, gan wasanaethu fel tystiolaeth i fodloni gofynion y corff dyfarnu.

Bydd eich Sgiliau Hanfodol hefyd yn cael eu hasesu’n barhaus drwy gydol y cwrs.



Ydych chi’n barod i ddatgloi eich potensial yn y diwydiant peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu? Y cymhwyster hwn yw eich allwedd i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw’n weithredol.

Pam Dewis y Cymhwyster Hwn?
Mae llawer o gyflogwyr yn cydnabod gwerth y rhaglen hon, gan ei gwneud yn garreg gamu ardderchog ar gyfer symud ymlaen i gyflogaeth neu tuag at brentisiaeth. Mae’r diwydiant peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu yn gwerthfawrogi Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) perthnasol fwyfwy.

Pa Gyfleoedd Gyrfa sy’n Aros Amdanoch Chi?
Ar ôl cwblhau, gall cyfleoedd cyflogaeth hyfforddeion cyffrous fod ar gael mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau crefft, gan gynnwys:
● Ffitiwr
● Peiriannwr
● Mecanyddol / Cydosod
● Niwmateg

Parhewch â’ch Taith gyda Phrentisiaeth!

Os byddwch chi’n sicrhau cyflogaeth, bydd gennych chi’r cyfle gwych i barhau â’ch astudiaethau ac ennill cymwysterau pellach fel rhan o brentisiaeth. Mae hyn yn golygu y gallwch chi barhau i feithrin eich arbenigedd wrth ennill profiad gwerthfawr yn y gwaith.


Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost