Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00863 |
Lleoliad | Ffordd y Bers |
Hyd | Llawn Amser, Mae hwn yn Gwrs 1 flwyddyn llawn amser (3 diwrnod yr wythnos). |
Adran | Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Rhowch Hwb i’ch Arbenigedd Peirianneg
Ydych chi’n barod i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa werth chweil mewn peirianneg? Bydd y cwrs academaidd ac ymarferol hwn yn eich helpu chi i ennill sgiliau hanfodol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau peirianneg. Byddwch chi’n datblygu galluoedd allweddol mewn mesuriadau peirianneg, cyfrifiadau ac arferion iechyd a diogelwch hanfodol.
Mae'r rhaglen hon yn rhoi’r theori a'r wybodaeth hanfodol i chi sy'n sail i sgiliau ymarferol, gan sicrhau eich bod chi wedi'ch paratoi'n dda ar gyfer eich dyfodol yn y diwydiant.
Mae hon yn rhaglen peirianneg aml-ddisgyblaethol sy’n cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth peirianneg sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr sydd eisiau gweithio ym maes peirianneg. Mae'n cefnogi myfyrwyr sy'n anelu at brentisiaeth yn y diwydiant cynnal a chadw a chomisiynu peirianneg yn benodol. Byddwch chi'n dysgu technegau peirianneg ar gyfer cynnal a chadw llinell gynhyrchu, yn ogystal â sut i gau ac adfer systemau peiriannau i sicrhau cynhyrchiant effeithlon.
Beth Fyddwch chi’n ei Feistroli
Bydd myfyrwyr yn astudio nifer o unedau arbenigol sy'n cefnogi'r rhaglen hon, gan gynnwys:
● Egwyddorion Peirianneg
● Gweithio'n Effeithiol ac yn Ddiogel mewn Amgylcheddau Peirianneg
● Egwyddorion Cynnal a Chadw a Gosod a Chomisiynu
● Unedau mecanyddol
● Unedau hydrolig
● Unedau trydanol
Rhoi Hwb i’ch Sgiliau Craidd
Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn unrhyw rôl beirianneg.

Cwblhau rhaglen Beirianneg Ganolradd/Uwch/Lefel 2 llawn amser perthnasol yn llwyddiannus (er enghraifft cymhwyster City and Guilds ac EAL Trydanol a Mecanyddol, neu debyg) a Sgiliau Hanfodol cysylltiedig.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr gael o leiaf gradd C/4 TGAU mewn Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg.
Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau lefel 2 mewn Peirianneg ac sy’n gweithio tuag at wella eu TGAU yn cael eu hystyried ar gyfer y rhaglen hon. Fodd bynnag, mae’n ofyniad gorfodol y bydd pob dysgwr yn gweithio tuag at gwblhau TGAU gradd C/4 ac uwch.
Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at allu astudio cwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n dangos eich cynnydd drwy gyfuniad o waith aseiniad, tasgau ymarferol, ac arholiadau atebion byr mewnol ac allanol.
Bydd eich Sgiliau Hanfodol hefyd yn cael eu hasesu’n barhaus drwy gydol y cwrs.

Mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle cyffrous i chi weithio mewn maes aml-ddisgyblaethol o fewn peirianneg.
Gallech chi arbenigo mewn rolau mecanyddol, hydrolig, cynnal a chadw, trydanol neu ddylunio.
Byddwch chi hefyd wedi’ch paratoi i gefnogi rhaglenni peirianneg cynnal a chadw’r diwydiant cynhyrchu gan agor drysau i ystod eang o lwybrau gyrfa.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025