Diploma Technegol Uwch Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP51296
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs dwy flynedd llawn amser.
Adran
Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Datblygu Eich Arbenigedd yn y Diwydiant Da Byw Amaethyddol!

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i lunio i’ch darparu chi gydag ystod eang o sgiliau ymarferol technegol, modern ac arbenigol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ehangach o’r diwydiant da byw amaethyddol trwy wersi a hyfforddiant manwl.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd eich astudiaethau'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth mewn:
● Technegau rheoli glaswelltir modern.
● Dadansoddi bridiau.
● Defnyddio a rheoli peiriannau.
● Cynnal a chadw a rheoli ystadau.
● System gofnodi fodern o berfformiad da byw.
● Samplu cnydau a phridd.

Byddwch yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio technoleg arloesol a chyfoes gan gynnwys mesuryddion platiau mesur glaswellt, microsgop cyfrif wyau carthion a fflyd o dractorau a pheiriannau modern.

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Gan ddefnyddio technoleg da byw arloesol a diweddar byddwch yn datblygu sgiliau a phrofiad i’ch helpu i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth i ddod yn fwy effeithlon fel:
● Rheolwr Fferm
● Agronomegydd
● Rheolwr Fferm Gynorthwyol
● Arbenigydd Da Byw
● Gweithredwr Peiriannau

Byddwch chi’n Dysgu

Byddwch yn dysgu yn ein Canolfan Addysgu Amaethyddol bwrpasol, gweithdai o safon y diwydiant a chyfleusterau labordy modern. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys ymweliadau â’r diwydiant, sioeau amaethyddol yn ogystal â gwneud defnydd llawn o’n fferm waith fasnachol amrywiol sy’n cynnwys 400Ha gyda buches laeth fawr, eidion a defaid, uned âr ac ystod o goetiroedd.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â lleoliadau gwaith drwy gydol y cwrs mewn busnes perthnasol sy'n seiliedig ar y tir. Mae’r lleoliadau gwaith gwerthfawr hyn yn rhan annatod o’r cwrs. Maent yn eich galluogi i feithrin eich sgiliau ac i sefydlu cysylltiadau yn y diwydiant ac i wella eich rhagolygon gwaith yn y dyfodol.

Mae Sgiliau Hanfodol yn rhan hanfodol o’r rhaglen, a byddwch yn cwblhau cymwysterau ychwanegol i wella eich sgiliau Rhifedd, Llythrennedd a TGCh. Bydd gennych hefyd y cyfle i weithio ar weithgareddau menter a chwblhau’r Bagloriaeth Cymru Uwch sy’n berthnasol i’ch pwnc cwrs.

Cymwysterau Ychwanegol:

Hefyd, byddwch chi’n cael y cyfle i fynd i’r afael ag asesiadau allanol i ennill tystysgrifau cymhwysedd mewn:
● Meddyginiaethau milfeddygol
● Cludo anifeiliaid
● Cneifio defaid
● Trinwyr telesgopig
● Chwistrellu plaladdwyr
● Cerbydau pob tir (ATV)
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf)
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Byddwch chi’n dysgu trwy gymysgedd deinamig o ddulliau, gan sicrhau profiad cynhwysfawr a diddorol.
Mae’r rhain yn cynnwys:
● Sesiynau theori
● Gwaith grŵp ac unigol
● Tasgau ymarferol

Bydd asesu’n digwydd yn barhaus drwy gydol y flwyddyn i gefnogi eich datblygiad.

Byddwch yn cael eich asesu trwy:
● Aseiniadau
● Arsylwadau ymarferol
● Profion bychain
● Arholiadau
● Asesiadau Synoptig
● Cyflwyniadau
● Cyfnod llwyddiannus o brofiad gwaith
Beth Nesaf ar ôl y Cwrs hwn?

Ar ôl gorffen y cymhwyster hwn bydd gennych ystod o gyfleoedd cyffrous o ran eich cynnydd.

Gallwch ddewis dilyn prentisiaethau sy’n arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth, neu efallai y byddai’n well gennych ddatblygu eich astudiaethau gyda chwrs Addysg Uwch cysylltiedig neu radd prifysgol.

Llwybrau Gyrfaol Posib:
● Technegydd Da Byw
● Agronomegydd
● Arbenigydd Bridio
● Hunangyflogaeth

Cyfleoedd Dysgu Pellach:

Efallai dymunwch symud ymlaen gyda’ch astudiaethau o fewn Addysg Bellach gan gynnwys Coleg Cambria – Llysfasi neu brifysgol. Gallwch astudio cyrsiau fel:
● Gradd Sylfaen BSc (Anrh) mewn Amaethyddiaeth
● Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid BSc (Anrh)
● Amaethyddiaeth gydag Astudiaethau Busnes BSc (Anrh)
● Amaethyddiaeth gyda Rheolaeth Cefn Gwlad BSc (Anrh)
● Amaethyddiaeth gyda Mecaneiddio Fferm BSc (Anrh)
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost