Tystysgrif Dechnegol lefel 2 mewn Amaethyddiaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01487
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Darganfod Eich Dyfodol mewn Amaethyddiaeth!

Ydych chi'n barod am yrfa heriol a gwerth chweil mewn amaethyddiaeth? Mae ein cyrsiau amaethyddiaeth wedi'u cynllunio i roi dealltwriaeth eang i chi ar draws gwahanol sectorau, gan ganolbwyntio ar systemau cynhyrchu amaethyddol modern a'r wyddoniaeth a'r dechnoleg y tu ôl iddyn nhw.

Cyfleusterau

Byddwch chi’n manteisio o’n:
● Canolfan Adnoddau Amaethyddol Pwrpasol: Gofod pwrpasol ar gyfer eich dysgu.
● Fferm Fasnachol 970 erw: Mae'r fferm helaeth hon yn dangos egwyddorion ymarferol a sut mae cysyniadau gwyddonol, technolegol a busnes yn cael eu defnyddio mewn amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yn y byd go iawn.

Ble Fyddwch chi’n Astudio
Byddwch chi wedi'ch lleoli ar ein safle yn Llysfasi yn ein Canolfan Adnoddau Amaethyddol pwrpasol. Mae Llysfasi ger Rhuthun, yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Mentrau’r Fferm
Byddwch chi'n cael defnyddio’n fferm fasnachol 970 erw, sy'n cynnwys 230 o wartheg godro, mentrau cig eidion a defaid, ac amrywiaeth o fentrau cynhyrchu cnydau porthiant.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Mae'r cwrs yn cyfuno amrywiaeth o unedau hanfodol:
● Iechyd a diogelwch ar gyfer diwydiannau’r tir
● Unedau pŵer a gweithredu peiriannau amaethyddol
● Hwsmonaeth cnydau
● Cynhyrchu anifeiliaid fferm
● Cynnal a chadw ystadau fferm
● Ffisioleg planhigion ac anifeiliaid
● Gweithio yn y diwydiant amaethyddol

Pam Dewis Amaethyddiaeth yn Llysfasi?
● Cysylltiadau Cadarn â’r Diwydiant: Byddwch chi’n manteisio ar ein perthnasoedd gwaith cadarn gydag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant.
● Datblygu Sgiliau Allweddol: Byddwch chi’n meithrin sgiliau mewn gwyddorau anifeiliaid, peiriannau, hwsmonaeth planhigion ac anifeiliaid, cnydau, rheoli porfeydd a busnes.
● Cymwysterau Ychwanegol: Bydd cyfleoedd i chi ennill cymwysterau ychwanegol fel trwyddedau Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel, Telehandler, ac ATV.
● Profiad Ymarferol: Mae profiadau gwaith ymarferol ar ein fferm fasnachol a lleoliadau gwaith diwydiannol yn rhan hanfodol o’r cwrs, a bydd y rhain yn cyfrannu at gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.
● Cysylltiadau Diwydiant Helaeth: Mae gennym ni gysylltiadau helaeth â busnesau sy’n gysylltiedig ag amaeth a bwyd a bydd ymweliadau allanol a siaradwyr gwadd yn rhan o’r dysgu.

4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf)
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
I ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn, bydd gofyn i chi gwblhau amrywiaeth o asesiadau yn llwyddiannus. Bydd y rhain wedi’u cynllunio i fesur eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol.

Dyma sut y byddwch chi’n cael eich asesu:
● Prawf Iechyd a Diogelwch: Byddwch chi’n sefyll un prawf iechyd a diogelwch, sy’n cael ei osod a’i farcio’n allanol.
● Arholiadau Allanol: Byddwch chi’n sefyll un arholiad o dan amodau arholiad ffurfiol, sy’n cael ei osod a’i farcio’n allanol.
● Aseiniad wedi’i Gymedroli: Byddwch chi’n cwblhau un aseiniad, sy’n cael ei osod yn allanol a’i farcio’n fewnol, ac yna’n cael ei gymedroli’n allanol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd gennych chi gyfleoedd cyffrous i barhau â’ch addysg neu neidio’n syth i yrfa gwerth chweil mewn amaethyddiaeth.

Rhagor o Astudio
● Cyrsiau Lefel 3: Gallech chi symud ymlaen i gwrs Lefel 3 dwy flynedd yn astudio Amaethyddiaeth, Amaethyddiaeth a da byw neu Amaethyddiaeth gyda Mecaneiddio.
● Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau: Gallech chi “ennill cyflog wrth i chi ddysgu” gyda phrentisiaethau a hyfforddeiaethau sydd ar gael yn y diwydiant, lle gallwch chi weithio a pharhau i astudio.
● Hyfforddiant Arbenigol: Rhowch hwb i’ch sgiliau gyda hyfforddiant a chyrsiau ychwanegol, fel cymwysterau A.I. (Ffrwythloni Artiffisial) a Thrin Traed.

Dewisiadau Gyrfa

Gall y cwrs hwn agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd gwerth chweil yn y sector amaethyddol, gan gynnwys:
● Rheolwyr Fferm (gyda chymhwyster Lefel 3)
● Gweithiwr Fferm
● Ymgynghorwr
● Contractwr
● Arwerthwr Da byw
● Swyddog Addysg
● Rhedeg eich busnes eich hun

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost