Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP00847 |
Lleoliad | Llysfasi |
Hyd | Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser. |
Adran | Peirianneg Amaethyddol, Amaethyddiaeth ac Amaethyddiaeth Fanwl Gywir, Coedwigaeth a Chefn Gwlad |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Darganfyddwch Eich Llwybr yn Niwydiannau’r Tir!
Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sy'n gadael yr ysgol neu'r rhai sy'n cael eu haddysgu gartref gydag ychydig neu ddim cymwysterau, sy'n barod i gychwyn ar daith ddysgu ymarferol. Mae wedi'i gynllunio i'ch helpu i ennill sgiliau ymarferol rhagorol ar draws amrywiaeth o feysydd tir cyffrous, gan gynnwys amaethyddiaeth, garddwriaeth, cadwraeth, rheoli ystadau a pheirianneg. Byddwch chi'n datblygu sgiliau ymarferol hanfodol fel bwydo, gwirio iechyd, a symud anifeiliaid fferm, cynnal a chadw cynefinoedd a llwybrau troed, cadw ardaloedd gwyrdd yn daclus, a chynnal a chadw cerbydau modur sylfaenol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch yn archwilio amrywiaeth o bynciau i adeiladu sylfaen gadarn:
● Llety a bwydo anifeiliaid fferm
● Cyflwyniad i anifeiliaid fferm
● Planhigion a bywyd gwyllt
● Cynnal a Chadw Cerbydau Modur Sylfaenol
● Sgiliau Cadwraeth
● Sgiliau Garddwriaeth
● Sgiliau Ystadau
● Iechyd a Diogelwch
● Datblygu Perfformiad Personol
Bydd eich profiad dysgu yn cyfuno gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth â gwaith ymarferol sylweddol, gyda sesiynau ymarferol yn cyfrif am hanner eich amser coleg. Rydym hefyd yn cynnwys sesiynau i helpu i gryfhau eich sgiliau Saesneg a Mathemateg, sy'n hanfodol i'ch llwyddiant.
Gwella eich profiad
Byddwch yn manteisio o:
● Nifer o ymweliadau addysgol trwy gydol y flwyddyn.
● Cyfle i gyfarfod siaradwyr gwadd ysbrydoledig ac arbenigwyr y diwydiant.
● Defnydd llawn o'n fferm a'n hystâd ar y safle ar gyfer dysgu ymarferol.
Ble fyddwch chi’n astudio
Byddwch wedi'ch lleoli yn ein safle Llysfasi, wedi'i leoli yng nghefn gwlad godidog Rhuthun yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Yr anifeiliaid y byddwch yn gweithio â nhw
Yn ystod eich astudiaethau, bydd gennych chi fynediad rheolaidd i'n fferm 970 erw. Yma, byddwch chi’n cael profiad ymarferol o reoli ein gwartheg godro a'n defaid iseldir a mynydd, ac yn cymryd rhan mewn sgiliau ystadau ar y fferm ac yn ein coetiroedd.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Mae’n hanfodol fod gennych ddiddordeb cryf mewn gweithgareddau a dysgu.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Byddwch yn dangos eich dysgu drwy gydol y cwrs trwy amrywiaeth o asesiadau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi eich datblygiad. Mae’r rhain yn cynnwys:
● Gweithgareddau ymarferol yn gweithio o amgylch ein safle.
● Cwestiynau gwybodaeth byr.
● Portffolio tystiolaeth.
Byddwch yn parhau i feithrin eich sgiliau Llythrennedd a Rhifedd hefyd.
Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen i opsiynau astudio pellach cyffrous:
● Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid.
● Lefel 1 mewn Astudiaethau’r Tir.
I symud ymlaen, bydd angen i chi basio Astudiaethau’r Tir Mynediad 3, a dangos hyfedredd mewn Sgiliau Sylfaenol Mathemateg a Saesneg.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025