Diploma Estynedig Technegol Uwch Lefel 3 Tilhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01565
Lleoliad
Llysfasi
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser 2 flynedd, gyda 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg, ac 1 diwrnod o brofiad gwaith.
Adran
Coedwigaeth a Chefn Gwlad
Dyddiad Dechrau
07 Sep 2026
Dyddiad gorffen
16 Jun 2028

Trosolwg o’r Cwrs

Lansiwch Eich Gyrfa gyda Diploma Tilhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth!

Ydych chi'n barod i ddatblygu gyrfa lwyddiannus mewn coedwigaeth? Mae Diploma Tilhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth yn rhan o bartneriaeth unigryw rhwng Coleg Llysfasi a Tilhill Forestry, cwmni rheoli coedwigoedd a choetiroedd mwyaf y DU. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n benodol i'ch paratoi chi ar gyfer y diwydiant a'ch hyfforddi chi ar gyfer swydd yn y sector hanfodol hwn.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu

Yn y byd technolegol, modern hwn o goedwigaeth, mae dealltwriaeth gadarn o goed wrth wraidd popeth a wnawn, boed hynny’n goedwigaeth fasnachol neu'n rheoli coetiroedd. Byddwn ni’n eich arwain chi drwy agweddau technegol:
● Adnabod gwahanol rywogaethau coed.
● Deall y wyddoniaeth y tu cefn i sut mae coed yn gweithredu.
● Sefydlu a gofalu am goed, gan gynnwys amddiffyn rhag plâu a chlefydau.
● Rheoli coed ar gyfer cynhyrchu, cadwraeth ac amwynder.
● Dilyn y broses gyfan o dorri coed a’u cynaeafu hyd at eu prosesu.

Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio’r offer, y cyfarpar a'r peiriannau hanfodol ar gyfer y diwydiant cyffrous hwn, gan gynnwys llifiau cadwyn, peiriannau malu coed, tractorau, sgidwyr a blaenwyr.

Profiad Ymarferol a Chysylltiadau gyda’r Diwydiant

Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n gweithio tuag at safonau'r diwydiant, gan ddatblygu sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol. Mae pwyslais sylweddol ar waith ymarferol, gan roi digon o gyfleoedd i chi gael profiad ymarferol o weithio gyda choed. Yn ogystal ag ymweliadau, sesiynau ymarferol, a phrofiad gwaith ar y safle, mae ymweliadau addysgol â safleoedd Tilhill Forestry a BSW ar draws y gadwyn gyflenwi yn cynnig cyfleoedd dysgu ychwanegol ar safleoedd masnachol. Mae ein cysylltiadau agos â'r diwydiant yn rhoi cyfleoedd i brofi sefyllfaoedd gwaith bywyd go iawn, yn ogystal â chyfloedd lleoliad gwaith sylweddol, gan sicrhau eich bod chi’n cael yr holl brofiad sydd ei angen arnoch chi ar gyfer dechrau'n dda yn eich swydd gyntaf.
Rhowch Hwb i’ch Cymwysterau

I gyd-fynd â'ch prif gwrs, bydd gennych chi’r dewis o ennill amrywiaeth o gymwysterau ychwanegol (am gost) mewn meysydd fel:
● Llifiau Cadwyn
● Cerbydau Pob Tirwedd
● Torwyr Llwyni
● Peiriannau Malu Coed
● Defnyddio Plaladdwyr
● Gyrru Tractor

Byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau cymunedol a gweithgareddau eraill, gan gynnwys eich prosiect unigol eich hun, wrth weithio tuag at gwblhau Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af), Mathemateg a Gwyddoniaeth,
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria, byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at fynediad at gyrsiau lefel uwch.
Byddwch chi’n dangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu trwy gydol y cymhwyster trwy amrywiaeth o aseiniadau, wedi’u cynllunio i asesu eich sgiliau ymarferol, eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth sy’n berthnasol i bob uned.

Rhaid i chi basio pob aseiniad yn llwyddiannus ar gyfer pob uned i ennill y cymhwyster. Mae asesiadau’n cael eu cynnal trwy gydol y cwrs, gyda therfynau amser clir ar gyfer tasgau unigol.

Mae’r graddau a gewch chi ar gyfer pob aseiniad yn cyfrannu at radd derfynol eich cymhwyster.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, byddwch chi’n agor drysau i gyfleoedd gyrfa cyffrous a rhagor o gyfleoedd astudio.

Cyfleoedd i Symud Ymlaen:

Bydd myfyrwyr llwyddiannus sy’n cyflawni graddau uchel yn y cam cyntaf hwn o Ddiploma Tilhill yn gymwys i wneud cais am yr ail gam: Gradd Sylfaen Tilhill mewn Coedwigaeth a Rheoli Coetiroedd yng Ngholeg Llysfasi. Os bydd eich cyfweliad gyda staff Tilhill yn llwyddiannus, byddwch chi’n cael eich mentora, mewnbwn technegol a chefnogaeth gan Tilhill Forestry. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant pwrpasol a lleoliadau gwaith fel rhan o’r cwrs, gan eich rhoi chi mewn sefyllfa ddelfrydol ar gyfer ennill swydd o fewn y cwmni yn y dyfodol.

Fel arall, gallai cwblhau’r cymhwyster hwn arwain at swydd neu brentisiaeth gyda chwmnïau a sefydliadau coedwigaeth, coedyddiaeth, neu gefn gwlad. Gallai hyn olygu gweithio i gwmni rheoli coedwigoedd, ystâd, tirfeddiannwr, contractwr, neu awdurdod lleol. Gallech chi weithio fel contractwr/gweithredwr coedwigaeth, ceidwad coedwig, crefftwr coedwig, goruchwyliwr coedwig, contractwr ffiniau, a llawer o swyddi eraill.

Addysg Uwch

Efallai y byddwch chi’n penderfynu parhau i astudio yn y brifysgol ar gwrs cysylltiedig fel:
● Gradd mewn Rheolaeth Cefn Gwlad (BSc)
● Gradd Sylfaen mewn Rheoli Coedwigoedd a Choetiroedd
● Rheoli Cadwraeth Coetiroedd FdSc
● Rheoli Cadwraeth Coetiroedd BSc (Anrh)
● Coedwigaeth (BSc)
● Coedwigaeth Drefol (HND)

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost