Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP50202 |
Lleoliad | Llysfasi |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser 2 flynedd, gyda 4 diwrnod yr wythnos yn y coleg, ac 1 diwrnod o brofiad gwaith. |
Adran | Coedwigaeth a Chefn Gwlad |
Dyddiad Dechrau | 07 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 16 Jun 2028 |
Trosolwg o’r Cwrs
Archwilio Dyfodol mewn Rheolaeth Cefn Gwlad!
Ydych chi'n mwynhau bod yn yr awyr agored, baeddu'ch dwylo, ac yn meddu ar ddiddordeb brwd mewn bywyd gwyllt, cadwraeth, neu sgiliau gwledig? Mae'r cwrs hwn yn berffaith i chi os ydych chi am ddeall sut mae cefn gwlad yn gweithio a sut i gynnal ei dirweddau, rhywogaethau a chynefinoedd amrywiol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi’n archwilio gwahanol gynefinoedd fel coetiroedd, gwlyptiroedd, rhostiroedd a glaswelltiroedd, ac yn darganfod y rhywogaethau sy'n ffynnu ynddyn nhw. Byddwch chi’n dysgu am brosesau naturiol a'r ecosystemau maen nhw'n eu cynnal, gan ddeall sut mae'r rhain yn y pen draw yn cynnal pob bywyd.
Byddwch chi’n ennill sgiliau ymarferol gwerthfawr gan gynnwys:
● Ffensio a gosod gwrychoedd
● Rheoli coetiroedd, prysgoedio, plannu coed a thorri coed
● Gweithredu a chynnal a chadw peiriannau fel tractorau, llifiau cadwyn, torrwyr llwyni, a Cherbydau Pob Tirwedd
Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n gweithio tuag at safonau'r diwydiant, gan ddatblygu sgiliau ymarferol a dealltwriaeth gadarn o faterion damcaniaethol o fewn y diwydiant. Mae pwyslais sylweddol ar waith ymarferol, gan roi digon o gyfleoedd i chi ddod yn agosach at natur.
Gwella Eich Profiad
Mae teithiau addysgol yn rhan allweddol o'r cwrs, gan ddarparu cyfleoedd dysgu ychwanegol trwy ymweliadau a sesiynau ymarferol. Mae ein cysylltiadau agos â'r diwydiant yn rhoi cyfleoedd i chi brofi sefyllfaoedd gwaith bywyd go iawn. Mae hyn, yn ogystal â chyfloedd lleoliad gwaith sylweddol, yn sicrhau eich bod chi’n cael yr holl brofiad sydd ei angen arnoch chi i gael dechrau da yn eich swydd gyntaf.
Gallwch chi hefyd ennill amrywiaeth o gymwysterau ychwanegol (am gost) mewn meysydd fel llifiau cadwyn, Cherbydau Pob Tirwedd, torrwyr llwyni, peiriannau malu coed, defnyddio plaladdwyr a gyrru tractor. Ar ben hynny, byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i weithio ar brosiectau cymunedol a gweithgareddau eraill, gan gynnwys eich prosiect unigol eich hun, wrth gwblhau Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru.

5 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf) NEU
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen I gwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n dangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu trwy gydol y cymhwyster trwy amrywiaeth o aseiniadau, wedi’u cynllunio i asesu eich sgiliau ymarferol a’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth ar gyfer pob uned.
Rhaid i chi basio pob aseiniad yn llwyddiannus ar gyfer pob uned i ennill y cymhwyster.
Mae asesiadau’n cael eu cynnal trwy gydol y cwrs, gyda therfynau amser clir ar gyfer tasgau unigol. Mae’r graddau a gewch chi ar gyfer pob aseiniad yn cyfrannu at radd derfynol eich cymhwyster.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, byddwch chi’n agor drysau i gyfleoedd gyrfa cyffrous a rhagor o gyfleoedd astudio.
Cyfleoedd Gyrfa
Gallai cwblhau’r cymhwyster hwn arwain at swydd neu brentisiaeth o fewn sefydliad, cwmni neu gontractwr cefn gwlad. Gallai hyn olygu gweithio i ystâd, tirfeddiannwr, fferm, ystâd chwaraeon/saethu, cwmni rheoli coedwigoedd, neu awdurdod lleol. Gallech chi weithio fel warden cefn gwlad, ceidwad, contractwr/gweithredwr peiriannau, ceidwad coedwig, crefftwr, goruchwyliwr, rheolwr gwirfoddolwyr, goruchwyliwr ystadau, contractwr ffiniau, a llawer o swyddi eraill.
Addysg Uwch
Efallai y byddwch chi’n penderfynu parhau i astudio yn y brifysgol ar gwrs cysylltiedig fel:
● Rheoli Cefn Gwlad (BSc)
● Ecoleg (BSc)
● Cadwraeth Cefn Gwlad (BSc)
● Gradd Sylfaen Tilhill mewn Rheoli Coedwigoedd a Choetiroedd (FdSc)
● Rheoli Cadwraeth Coetiroedd BSc (BSc)
● Coedwigaeth Amgylcheddol (BSc)

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025