Diploma Lefel 3 C&G mewn Coginio Proffesiynol Uwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01306
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Llawn Amser, Cwrs blwyddyn llawn amser ydy hwn.



Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd, Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n angerddol am fwyd a choginio, gan gynnig cyfle i arbenigo a datblygu sgiliau a gwybodaeth lefel uchel yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo. Byddwch yn ennill y gallu i oruchwylio ac arwain tîm.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn eich tywys trwy sesiynau ymarferol a chynhyrchu mewn amrywiol feysydd, gan gynnwys y pantri, y crwst a'r gegin. Mae hyn yn cynnwys profiad ymarferol gyda swyddogaethau ar safle'r coleg ac oddi arno. Mae'r cwricwlwm hefyd yn cynnwys theori gysylltiedig, gweinyddiaeth, tiwtorialau, sgiliau hanfodol, dysgu seiliedig ar adnoddau, a datblygu portffolio.

Profiad yn y Byd Go Iawn Mae gan yr adran gysylltiadau cadarn â chyflogwyr lleol a chenedlaethol, gan wella eich cyfleoedd. Mae elfen brofiad gwaith orfodol yn rhan o'r cwrs hwn, gan gefnogi datblygiad sgiliau a gwybodaeth hanfodol ar gyfer y cwrs a'r diwydiant. Gall y lleoliadau hyn fod yn ein Bwyty Iâl masnachol neu sefydliadau allanol. Rydym yn eich annog yn gryf i sicrhau cyfle dysgu gwerthfawr gyda busnes.

Yn ogystal, bydd gennych chi gyfleoedd ar gyfer profiadau allgyrsiol gyda'r nos a phenwythnosau mewn swyddogaethau a digwyddiadau, lle gallwch ymgolli’n llawn mewn cynllunio, paratoi a goruchwylio digwyddiadau i gwsmeriaid.

Elfennau Gorfodol.
Yn ogystal â'r Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch, mae'r rhaglen yn cynnwys:
- Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
- Datblygu sgiliau Cymraeg
- Datblygu Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu ddwy flynedd o brofiad diwydiant mewn Arlwyo a Lletygarwch (argymhellir hyn) neu radd llwyddo o leiaf ar gyfer Diploma lefel 2 mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Gradd llwyddo yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol.

Bydd archwiliad sgiliau i sicrhau eich bod ar y lefel gywir.

Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eicharholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
Bydd eich sgiliau’n cael eu hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arsylwi ac aseiniadau ysgrifenedig. Caiff unedau coginio eu hasesu drwy brofion synoptig wedi’u hamseru a choginio seigiau unigol yn unol â meini prawf y cwrs. Efallai y byddwn yn asesu gwybodaeth sylfaenol gan ddefnyddio profion papur byr, tra bod dulliau asesu eraill yn cynnwys aseiniadau ymchwil a thasgau fel:

– Dylunio bwydlenni a darparu ryseitiau amgen gyda chanllawiau maeth cyfredol
– Cynhyrchu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/taflenni gwybodaeth, taflenni a phosteri
– Cyflwyno cyflwyniadau.
Mae’r diwydiant gwestai ac arlwyo yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser yn flynyddol, gan wneud hyfforddiant Gwestai ac Arlwyo yn llwybr rhyngwladol i waith diddorol. Gall y diploma hwn arwain at yrfaoedd fel:

– Rheolwr Arlwyo
– Chef
– Chef Crwst.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost