Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Lefel 3 C&G mewn Goruchwylio Bwyd a Diod ac Egwyddorion Arwain
Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01303 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd. |
Adran | Lletygarwch ac Arlwyo |
Dyddiad Dechrau | 03 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Oes gennych chi angerdd am fwyd a diod? Ydych chi'n breuddwydio am arwain tîm ym myd cyffrous lletygarwch? Y cwrs hwn yw eich cyfle i arbenigo a datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth lefel uchel y bydd eu hangen arnoch i oruchwylio ac arwain eraill mewn lleoliad bwyd a diod.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Bydd ein gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant yn eich tywys trwy sesiynau ymarferol a chynhyrchu sy'n cynnwys gweithrediadau blaen tŷ, aros a derbynfa, gan gynnwys swyddogaethau ar y safle ac oddi arno. Byddwch chi hefyd yn archwilio damcaniaeth hanfodol, gweinyddiaeth, a datblygu eich portffolio.
Ochr yn ochr â'ch cymhwyster Goruchwylio Bwyd a Diod, byddwch chi’n ymchwilio i Egwyddorion Arweinyddiaeth yn y Diwydiant Lletygarwch. Bydd hyn yn rhoi’r sgiliau a'r technegau i chi ragori mewn rolau goruchwylio a hyfforddi aelodau eich tîm yn effeithiol.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys:
- Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
- Datblygu sgiliau Cymraeg
- Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd
- Lleoliad gwaith gorfodol
Profiad yn y Byd Go Iawn
Mae gennym ni gysylltiadau cadarn â chyflogwyr lleol a chenedlaethol, gan wella eich cyfleoedd i lwyddo. Mae elfen brofiad gwaith orfodol yn allweddol i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y cwrs hwn a'r diwydiant. Byddwch chi’n ennill profiad gwerthfawr yn ein Bwyty Iâl masnachol a thrwy leoliadau allanol. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dechrau meddwl am ble hoffech chi gael y profiad dysgu gwerthfawr hwn!
Bydd gennych chi hefyd gyfleoedd cyffrous ar gyfer profiadau allgyrsiol gyda'r nos a phenwythnosau mewn swyddogaethau a digwyddiadau. Bydd hyn yn caniatáu i chi ymgolli'n llwyr yn y broses o gynllunio, paratoi a goruchwylio digwyddiadau i gwsmeriaid.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf) a dwy flynedd o brofiad yn y diwydiant Arlwyo a Lletygarwch (rydym yn argymell hyn) NEU gwblhau cymhwyster Lefel 2 sy’n berthnasol yn alwedigaethol yn llwyddiannus. Gradd llwyddo yn y cymwysterau Sgiliau Hanfodol.
Bydd archwiliad sgiliau i sicrhau eich bod ar y lefel gywir.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau TGAU. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n cael eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arsylwi, profion atebion byr ac aseiniadau ysgrifenedig. Bydd eich sgiliau bwyd a diod yn cael eu hasesu mewn amgylcheddau gwaith realistig fel ein bwyty, digwyddiadau, swyddogaethau, ac yn ystod eich profiad gwaith. Bydd rhywfaint o’ch gwybodaeth sylfaenol yn cael ei hasesu gan ddefnyddio profion papur byr, a byddwch chi hefyd yn cwblhau aseiniadau a thasgau ymchwil fel:
– Dylunio bwydlenni, gan ymgorffori canllawiau maethol cyfredol
– Cynhyrchu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/taflenni gwybodaeth, taflenni a phosteri
– Creu cyflwyniadau.
– Dylunio bwydlenni, gan ymgorffori canllawiau maethol cyfredol
– Cynhyrchu canllawiau, siartiau wal, pecynnau/taflenni gwybodaeth, taflenni a phosteri
– Creu cyflwyniadau.
Mae’r diwydiant Gwestai ac Arlwyo yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd amser llawn yn flynyddol. Mae’r cymhwyster hwn yn gweithredu fel llwybr rhyngwladol i waith diddorol!
Gall y cymhwyster hwn eich helpu i symud ymlaen mewn ystod eang o rolau lletygarwch, gan gynnwys:
– Goruchwyliwr Bar
– Goruchwyliwr blaen tŷ
– Rheolwr Arlwyo neu fwyty
Gall y cymhwyster hwn eich helpu i symud ymlaen mewn ystod eang o rolau lletygarwch, gan gynnwys:
– Goruchwyliwr Bar
– Goruchwyliwr blaen tŷ
– Rheolwr Arlwyo neu fwyty
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025