Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP81022 |
Lleoliad | Iâl |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Dysgu Sylfaen, Lletygarwch ac Arlwyo |
Dyddiad Dechrau | 04 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n angerddol am fwyd a gwasanaethau i gwsmeriaid? Ydych chi'n breuddwydio am yrfa ym myd prysur lletygarwch? Mae ein cwrs Arlwyo a Lletygarwch Lefel 1 yn fan cychwyn perffaith!
Bydd y cwrs blwyddyn, llawn amser hwn yn rhoi'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddych chi'n cael profiad ymarferol yn ein ceginau a'n bwytai proffesiynol gan baratoi a gweini bwyd blasus i'r cyhoedd. Mae pynciau’r cwrs yn cynnwys:
*Diogelwch bwyd mewn arlwyo
*Paratoi a choginio bwyd trwy ferwi, potsio, stemio, stiwio, brwysio, rhostio, grilio, pobi a ffrio
*Paratoi bwyd oer
*Deall deddfwriaeth y diwydiant
*Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch
Mae'r cwrs yn cynnwys dau arholiad synoptig. Mae’r rhain yn arholiadau ymarferol lle bydd gofyn i ddysgwyr baratoi, coginio a gorffen nifer o seigiau o fewn cyfnod penodol.
Disgwylir i fyfyrwyr wneud yr arholiadau hyn yn annibynnol ac felly mae angen sgiliau trefnu da arnynt a'r gallu i wneud sawl tasg ar unwaith.
Cymorth ar gyfer Eich Llwyddiant
Canolbwyntir ar ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd trwy gydol y rhaglen. Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu.
Byddwch chi’n cael Anogwr Cynnydd a fydd yno i'ch cefnogi chi bob cam o'r ffordd. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol ar waith cyn i chi ddechrau ar eich cwrs. Byddan nhw hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eich rhaglen i’ch helpu chi i lwyddo. Mae'r cwrs hwn wedi'i gefnogi'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Iaith Saesneg.
I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r rhaglen Mynediad, mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster Lefel Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.
Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Bydd eich sgiliau’n cael eu hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys arsylwi ac aseiniadau ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn cael dangos eich doniau coginio mewn arholiadau ymarferol amseredig gan baratoi a gorffen sawl pryd yn annibynnol. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i wneud tasgau amrywiol sy’n hanfodol ar gyfer cegin brysur!
Mae’r diwydiant Gwestai ac Arlwyo yn gyflogwr enfawr gyda chyfleoedd gwych i unigolion medrus. Y cwrs hwn yw eich pasbort rhyngwladol i yrfa ddiddorol a gwerth chweil ym maes lletygarwch.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025