Diploma Lefel 3 UAL mewn Celfyddydau Cynhyrchu

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01299
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser. (Dwy flynedd os ydych yn dymuno cwblhau’r Diploma Estynedig, ar ôl cwblhau blwyddyn un yn llwyddiannus).
Adran
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Gallwch chi ddilyn y Diploma Lefel 3 yn y Celfyddydau Cynhyrchu fel Diploma blwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd lawn. Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gynhyrchu theatr gefn llwyfan, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith mewn lleoliadau amrywiol fel theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, gwyliau, stiwdios teledu a ffilm, ac ym maes rheoli llwyfannau, digwyddiadau ac artistiaid.

Byddwch chi’n ennill sgiliau ymarferol mewn:
- Cynhyrchu a rheoli llwyfan
- Goleuadau llwyfan
- Sain fyw a sain wedi'i recordio
- Mapio taflunio ac A/V (Clyweledol)
- Gwneud propiau
- Adeiladu golygfeydd
- Gweithrediadau blaen tŷ.

Bydd y sgiliau hyn yn cael eu datblygu trwy brofiad galwedigaethol, gweithio ar gynyrchiadau byw gan gynnwys dramâu, gigs cerddoriaeth, a pherfformiadau cerddorol, yn ogystal â thrwy brosiectau sy’n benodol i safleoedd. Mae'r cwrs hwn yn pwysleisio arferion gwaith safon diwydiant, gan eich helpu chi i adeiladu portffolio profiad proffesiynol ar gyfer cyflogaeth neu symud ymlaen i'r brifysgol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu gwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Diploma (Blwyddyn 1) rhaid i chi basio wyth uned yn llwyddiannus. Mae eich gradd cymhwyster terfynol (Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth) yn seiliedig ar Uned 8, prosiect perfformio cydweithredol sy’n eich galluogi chi i arddangos y sgiliau rydych chi wedi’u dysgu.

Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Diploma Estynedig (Blwyddyn 2), rhaid i chi basio 12 uned yn llwyddiannus gan gynnwys unedau 1–8 o’r Diploma yn ogystal ag Unedau 9-12. Mae Uned 12, prosiect estynedig, yn arddangos eich dysgu o bob uned ac yn cael ei graddio’n Llwyddo, Teilyngdod, neu Ragoriaeth. Caiff yr uned hon ei hasesu’n fewnol ac yn allanol.

Gall y cwrs hwn arwain yn uniongyrchol at yrfa yn y diwydiant neu at gyrsiau Addysg Uwch fel:

– Rheoli Llwyfan
– Dylunio a Thechnoleg Goleuo
– Goleuo Pensaernïol
– Astudiaethau Technegol Theatr
– Peirianneg Drydanol
– Peiriannydd Darlledu
– Cynhyrchu Digwyddiadau Byw
– Rheoli Digwyddiadau

Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost