Diploma Lefel 3 UAL mewn Celfyddydau Perfformio

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00498
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn llawn amser. (Dwy flynedd os ydych am gwblhau’r Diploma Estynedig, ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus).
Adran
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Yn barod i ryddhau’r perfformiwr tu mewn i chi? Mae'r rhaglen heriol a llawn boddhad hon wedi'i chynllunio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb brwd a dawn yn y celfyddydau perfformio gan gynnig profiad gwerthfawr i ddechrau gyrfa yn y diwydiant.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Gellir dilyn y Diploma Lefel 3 fel Diploma blwyddyn o hyd neu fel Diploma Estynedig dros gyfnod o ddwy flynedd yn llawn amser. Byddwch yn ennill y wybodaeth, sgiliau a'r ddealltwriaeth hanfodol sydd eu hangen i symud ymlaen at astudio ar lefel gradd a chael cyflogaeth o fewn sector bywiog y Celfyddydau Perfformio.

Mae'r cymhwyster ysgogol a heriol hwn yn darparu trosglwyddiad cefnogol o astudiaeth gyffredinol i astudiaeth fwy arbenigol a’ch galluogi chi i archwilio, datblygu a phrofi eich creadigrwydd.

Byddwch yn datblygu sgiliau trwy amrywiaeth o weithgareddau atyniadol ar draws ystod eang o ddisgyblaethau perfformio gan gynnwys:
- Dawns
- Drama
- Canu
- Theatr Gerdd.

Byddwch chi’n cael cyfleoedd anhygoel i weithio ȃ phobl broffesiynol wrth eu gwaith. Byddwch chi’n cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol gan gynnwys ymweliadau addysgol a dosbarthiadau meistr.

Mae eich rhaglen ddysgu yn cynnwys cymwysterau fel Bagloriaeth Cymru ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich dilyniant i gyflogaeth neu Addysg Uwch. Mae pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi’r cyfle i chi feithrin eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at lefel 2 ac yn ddelfrydol hyd at gyflawni Gradd C/4 ar lefel TGAU, oni bai eich bod wedi cyflawni hynny’n barod. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn sylweddol yn y farchnad swyddi a bydd yn eich galluogi i symud ymlaen at Addysg Uwch.

Trwy gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn ennill Diploma UAL Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf), NEU gwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd.

Hefyd mae’n rhaid i ymgeiswyr fynychu gweithdy mynediad a’i gwblhau’n llwyddiannus. Mae gweithdai mynediad wedi’u trefnu ar gyfer mis Mehefin a mis Medi a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau yn ystod y broses ymgeisio.

Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi chi i symud ymlaen at gwrs lefel uwch.
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Diploma (blwyddyn 1) rhaid i chi basio wyth uned yn llwyddiannus. Mae Uned 8 yn brosiect perfformio cydweithredol sy’n eich galluogi chi i arddangos y cyfan yr ydych wedi’i ddysgu o’r unedau eraill. Dyfernir gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ar gyfer yr uned hon sy’n pennu eich gradd derfynol ar gyfer y cymhwyster.

Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Diploma Estynedig (blwyddyn 2) mae’n rhaid i chi basio 12 uned yn llwyddiannus gan gynnwys unedau 1–8 o’r Diploma yn ogystal ag Unedau 9-12. Mae Uned 12 yn brosiect estynedig sy’n eich galluogi i arddangos y cyfan yr ydych wedi’i ddysgu o gwblhau’r unedau eraill. Dyfernir gradd Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ar gyfer yr uned hon sy’n pennu eich gradd derfynol ar gyfer y cymhwyster gydag asesiad mewnol ac allanol.

Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Celfyddydau Perfformio ac i wneud ceisiadau i Brifysgolion ac Ysgolion Dawns a Drama a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer cyrsiau fel Actio, Dawns neu Theatr Gerdd.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.



Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost