UAL Lefel 2 Diploma mewn Celfyddydau Perfformio

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00212
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, llawn amser.
Adran
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2026
Dyddiad gorffen
19 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n angerddol am y celfyddydau perfformio? Mae Diploma Lefel 2 UAL mewn Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Cambria wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn actio, canu, dawnsio a theatr gerdd. Mae'r rhaglen gynhwysfawr, amser llawn (blwyddyn o hyd) yn sylfaen ardderchog ar gyfer astudiaeth bellach a gyrfa bosibl yn y diwydiant celfyddydau perfformio bywiog.

Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r diploma hwn yn cynnig cymysgedd deinamig o brosiectau unigol a grŵp sy’n eich cyflwyno i dechnegau datblygu a chyflwyno perfformiad hanfodol gan gynnwys actio, gwaith lleisiol a sgiliau symud. Bydd cyfleoedd cyffrous i chi gymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus a chydweithio ar greu deunydd perfformio fel rhan o dîm. Mae'r cwrs hefyd yn darparu profiadau gwerthfawr trwy ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol sy'n ymarfer a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol a gefnogir gan ymweliadau addysgol.

4 TGAU graddau D/3 neu uwch gan gynnwys Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith Gyntaf)
NEU gwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus sy’n rhaid cynnwys cyflawniad o rifedd a llythrennedd.

Cyn cael eu derbyn ar y cwrs, mae croeso i bob ymgeisydd gymryd rhan mewn gweithdy clyweliad. Mae hwn yn gyfle i ddysgwyr cyfarfod â’u tiwtoriaid, ac yn gyfle i diwtoriaid asesu set sgiliau myfyrwyr a’u gwybodaeth gyfredol o fewn Celfyddydau Perfformio.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs ar lefel uwch.
I gyflawni’r cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi lwyddo mewn 9 uned. Mae’r uned olaf “Cynhyrchu a Pherfformio i Gynulleidfa” yn asesiad crynodol sy’n eich galluogi i arddangos y sgiliau a’r wybodaeth a ddysgwyd drwy gydol y rhaglen.

Caiff yr uned hon ei graddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth ac mae’n pennu gradd gyffredinol y cymhwyster ac yn cael ei hasesu’n fewnol ac yn allanol.
Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 2 ac mae’n eich paratoi ar gyfer gweithio yn y Diwydiannau Creadigol. I’r rhai sy’n dymuno parhau ar eu siwrnai academaidd gall gyflawni’r cwrs Lefel 2 hwn yn llwyddiannus eich gwneud yn gymwys i gofrestru ar gyfer cymhwyster Celfyddydau Perfformio Lefel 3.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.



Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost