Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP50201 |
Lleoliad | Llysfasi |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn, lawn amser. |
Adran | Coedwigaeth a Chefn Gwlad |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ewch Ati i Feithrin Gyrfa mewn Rheoli Cefn Gwlad!
Ydych chi'n chwilio am fan cychwyn ar gyfer gyrfa werth chweil yn gweithio yn yr awyr agored? Os oes gennych ddiddordeb mewn rheoli tir, cynefinoedd, bywyd gwyllt a chadwraeth mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi. Mae'n rhoi sylfaen gadarn i'ch helpu chi i symud ymlaen naill ai i gymhwyster Lefel 3 mwy arbenigol, fel Rheoli Cefn Gwlad neu Goedwigaeth a Choedyddiaeth, neu i symud yn uniongyrchol i gyflogaeth neu brentisiaeth yn y gwaith.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi’n ennill gwybodaeth hanfodol a sgiliau ymarferol, gan edrych ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
● Arferion gweithio’n ddiogel yng nghefn gwlad.
● Cyfleoedd profiad gwaith.
● Defnyddio peiriannau a gyrru tractor.
● Cadwraeth a gwelliannau i gynefinoedd ym Mhrydain.
● Arolygu a monitro rhywogaethau.
● Egwyddorion busnes cefn gwlad.
● Sgiliau Ystadau.
● Sgiliau coedwigaeth ymarferol.
Byddwch chi'n dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan elwa o sesiynau ymarferol, gweithgareddau ystafell ddosbarth diddorol, ymweliadau cyfoethogi, a mewnwelediadau gan siaradwyr gwadd. Byddwch chi hefyd yn gwneud defnydd llawn o ystâd helaeth y coleg, gan gynnwys ein fferm a'n coetiroedd 970 erw (400 hectar). Fel rhan hanfodol o'r cwrs, byddwch chi’n cwblhau 150 o oriau mewn lleoliad profiad gwaith.
Gwella Eich Dysgu
Mae teithiau addysgol yn rhan bwysig o'r cwrs a byddan nhw’n cynnig cyfleoedd i gynnal gweithgareddau ac asesiadau. Mae ein cysylltiadau cadarn â busnesau a sefydliadau yng nghefn gwlad yn creu cyfleoedd dysgu ychwanegol trwy ymweliadau a sesiynau ymarferol.
Cefnogi Eich Llwyddiant
Os nad ydych chi wedi cyflawni gradd C/4 neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg, rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i ailsefyll arholiadau er mwyn eich helpu chi i lwyddo.

4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (iaith gyntaf)
NEU Cwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus.
Yng Ngholeg Cambria, byddem yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac o ganlyniad efallai y gallech symud ymlaen I gwrs lefel uwch.

Byddwch chi’n dangos yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu trwy gydol y cwrs trwy amrywiaeth o aseiniadau, wedi’u cynllunio i asesu eich sgiliau ymarferol a’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth ar gyfer pob uned.
I ennill y cymhwyster, rhaid i chi basio pob aseiniad yn llwyddiannus ar gyfer pob uned. Mae asesiadau’n cael eu cynnal trwy gydol y cwrs, gyda therfynau amser clir ar gyfer tasgau unigol.
Mae’r graddau a gewch chi ar gyfer pob aseiniad yn cyfrannu at radd derfynol eich cymhwyster.
Ar ôl cwblhau’r cwrs a’r holl asesiadau’n llwyddiannus, byddwch chi’n cael Diploma Lefel 2 City and Guilds mewn Cefn Gwlad a’r Amgylchedd.

Mae’r cwrs hwn yn agor drysau i gyfleoedd amrywiol yn y sector cefn gwlad.
Rhagor o Astudio
Gallech chi symud ymlaen i:
● Diploma Estynedig Lefel 3 Tilhill mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth (cwrs dwy flynedd).
● Diploma Estynedig mewn Rheoli Cefn Gwlad.
Dewisiadau Gyrfa
Mae cyfleoedd ar gyfer swyddi yn amrywiol ac yn cynnwys rolau fel:
● Gweithiwr Cadwraeth Cynorthwyol
● Is-geidwad Dan Hyfforddiant
● Rheolwr Hamdden Cynorthwyol
● Gweithiwr Cynnal a Chadw / Peiriannau
● Gweithiwr Tir ar gyfer Meddyg Coed
● Contractwr Ffensio
Mae cyfleoedd rhagorol ar gyfer prentisiaethau yn y sector hefyd.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025