Llwybr 4 Project Search/ASDA Queensferry (Interniaeth â Chymorth)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01363
Lleoliad
Asda Queensferry
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn o hyd. Mae’n gwrs llawn amser, 5 diwrnod yr wythnos.

Amseroedd presenoldeb – 9.15am – 4.15pm
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i gymryd y cam cyffrous i fyd gwaith? Mae'r rhaglen amser llawn ac unigryw hon (blwyddyn o hyd) yn bartneriaeth arbennig rhwng elusen Project Search, ASDA Queensferry a Choleg Cambria ac wedi'i chynllunio i gynnig cyfnod pontio llwyddiannus i'r gweithle. Byddwch yn ennill sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr sy’n bwysig i gyflogwyr er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol.

Beth fyddwch chi'n ei brofi

Nid cwrs cyffredin yw hwn – dyma brofiad ymarferol sy’n eich trochi yn y byd gwaith! Byddwch yn treulio pum diwrnod yr wythnos yn siop ASDA Queensferry ac yn edrych ar y gwahanol adrannau manwerthu ac yn ennill profiad gwaith yn y byd go iawn. Bydd yr ymagwedd ymarferol hon yn eich helpu i fagu hyder ac ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol neu ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli.

Trwy gydol yr wythnos byddwch hefyd yn cael sesiynau yn y dosbarth yn ASDA ei hun. Bydd y sesiynau hyn yn ategu eich sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol gan sicrhau fod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo.

Y nod yw eich paratoi ar gyfer cyflogaeth daledig trwy:
*Eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n bwysig i gyflogwyr.
*Eich galluogi i ddangos eich gwerth yn y gweithle.
*Magu hyder i berfformio’n llwyddiannus yn y gwaith.

Mae pob gweithgaredd ar y rhaglen hon wedi’u llunio i’ch darparu gyda’r wybodaeth, sgiliau a gwybodaeth benodol ar gyfer eich siwrnai unigol. Bydd gennych hefyd Fentor Cyflogadwyedd ac Anogwr Swydd ar y safle i’ch tywys trwy waith yn annibynnol o fewn tîm ASDA.
Cafodd y rhaglen hon ei chynllunio ar gyfer dysgwyr ag anawsterau a/neu anableddau dysgu sydd angen cymorth i fynd i waith llawn amser gyda thâl. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sy’n symud ymlaen o raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol. Mae’r rhaglen hon wedi’i lleoli ar safle ASDA, lle mae mwyafrif y rhaglen yn brofiad gwaith ymarferol. Bydd myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad a chyflwyniad cychwynnol cynhwysfawr cyn symud ymlaen i raglen brofiad gwaith unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau a’u dyheadau penodol. Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn gynllun addysg (CDU neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Bydd angen i ddysgwyr allu teithio’n annibynnol i leoliadau gwaith.

Bydd dysgwyr angen mynychu diwrnod asesu gyda’r Swyddog Pontio cyn dechrau’r rhaglen.
Mae eich cynnydd yn bwysig a byddwn yn eich helpu bob cam o’r ffordd! Bydd gennych Gynllun Dysgu Unigol i gofnodi eich nodau a thargedau personol. Bydd eich Tiwtor Personol a’ch Swyddog Pontio yn darparu cymorth un-i-un yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd ac i gynnig arweiniad yn eich lleoliad. Bydd y targedau unigol hyn yn eich galluogi i symud at eich dyheadau gyrfaol hirdymor. Efallai y byddwch eisiau cyflawni cymhwyster neu unedau perthnasol yn ystod y rhaglen.
Nod yr interniaeth hwn yn bennaf yw eich helpu i sicrhau cyflogaeth daledig! Byddwch wedi’ch paratoi’n dda i ddilyn rolau cyffrous yn y sector manwerthu a thu hwnt.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost