Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01361 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, Cwrs blwyddyn, llawn amser yw hwn, lle byddwch yn mynd i’r coleg dridiau’r wythnos. Mae diwrnodau’r coleg yn dechrau am 9:30am ac yn gorffen am 4:45pm ac yn gorffen am 3:45pm ar ddydd Gwener. |
Adran | Sgiliau Byw’n Annibynnol |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n barod i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer dyfodol annibynnol? Mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi os ydych chi'n awyddus i ennill hyder, datblygu sgiliau bywyd hanfodol a gweithio tuag at fyw bywyd annibynnol ar ôl y coleg.
Fe welwch amgylchedd cefnogol a chroesawgar lle byddwn yn canolbwyntio ar eich taith unigol.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r rhaglen amrywiol hon yn canolbwyntio ar eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol ar gyfer byw'n annibynnol. Byddwch yn edrych ar:
*Iechyd a Llesiant: Dysgu sut i edrych ar ôl eich hun ac i fod yn iach.
*Cynhwysiant Cymunedol: Cymryd rhan yn eich cymuned leol.
*Sgiliau Byw’n Annibynnol: Datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd.
*Sgiliau Cyflogadwyedd: Paratoi ar gyfer y byd gwaith.
*Profiad Gwaith: Ennill profiad ymarferol a gwerthfawr yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi fel gofal anifeiliaid, sgiliau gweithdy neu brosiectau cymunedol.
*Sgiliau Hanfodol: Gwella eich sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd.
Mae pob gweithgaredd ar y cwrs hwn wedi'i gynllunio i’ch helpu i gyflawni eich nodau unigryw ac i’ch helpu i gyrraedd eich nod arfaethedig.
Y Math o Gymorth y Byddwch Chi’n Ei Dderbyn
Mae eich siwrnai ddysgu yn unigryw ac rydym yma i’ch helpu pob cam o’r ffordd.
*Cynllun Dysgu Unigol: Bydd gennych gynllun personol gyda nodau a thargedau a bydd eich tiwtor personol yn cynnig cymorth un i un er mwyn adolygu eich cynnydd.
*Anogwr Cynnydd: Bydd Anogwr Cynnydd penodedig yn cwrdd â chi’n rheolaidd i gynnig cymorth bugeiliol i chi.
*Amserlen Bersonol: Bydd eich amserlen bersonol wedi’i deilwra i gwrdd â thargedau penodol ac yn eich helpu i gyflawni eich nodau hirdymor.
*Adolygiadau’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn: Byddwch yn cymryd rhan mewn adolygiadau i weld y cynnydd yr ydych wedi’i wneud ac i benderfynu ar eich camau nesaf.

Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn gweithio tuag at Fynediad 2 neu 3.
Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer ymgeiswyr ag anawsterau dysgu cymhleth, cymedrol a/neu anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.
Caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac mae cynigion yn seiliedig ar gyfweliad ac ystod o dystiolaeth ategol gan gynnwys cyflawniadau blaenorol ac asesiad o anghenion cymorth.
Gofynnwn i bob ymgeisydd fynychu sesiwn profi fel rhan o’r broses ymgeisio i sefydlu eu haddasrwydd, eu potensial a’u hanghenion cymorth ychwanegol.
Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn gynllun Addysg (CDU neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n manylu ar eu hanghenion dysgu ychwanegol. Mae’r holl gynlluniau’n cael eu hadolygu gan ein Panel Cynhwysiant cyn eu derbyn ar y rhaglen.
Mae angen cyflwyno ceisiadau ar gyfer rhaglenni SBA erbyn diwedd mis Ebrill fel y gallwn gynnig cyfnod pontio trylwyr a helaeth i’r coleg i’r dysgwyr.

Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth un i un yn rheolaidd gan eu tiwtor personol i adolygu eu cynnydd. Mae targedau unigol yn sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen at nod tymor hir.
Mae gan bob dysgwr Anogwr Cynnydd sy’n eu helpu ac yn cwrdd â nhw’n rheolaidd i gynnig cymorth gyda’u hanghenion bugeiliol ac yno i siarad ar ran y dysgwyr.

Prif nod y cwrs hwn yw eich helpu i gyflawni byw’n annibynnol. Bydd llawer o ddysgwyr yn symud ymlaen i fyw’n annibynnol er y bydd rhai yn parhau i fod angen cymorth. Efallai y byddwch yn dewis parhau gyda’ch siwrnai dysgu gan ddilyn Llwybr 4 neu edrych ar interniaethau â chymorth neu raglenni addysg bellach eraill.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025