Llwybr (Interniaethau â Chymorth) - Llwybr 4

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01362
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Cwrs blwyddyn, llawn amser yw hwn, lle byddwch yn mynd i’r coleg dridiau’r wythnos.

Mae diwrnodau’r coleg yn dechrau am 9:30am ac yn gorffen am 4:45pm ac yn gorffen am 3:45pm ar ddydd Gwener.
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi'n barod i gymryd cam sylweddol tuag at sicrhau cyflogaeth â thâl? Mae ein Interniaeth â Chymorth Porth i Waith Llwybr 4 wedi'i chynllunio i'ch helpu i gyflawni eich nodau gyrfa. Mae’r rhaglen llawn amser, blwyddyn o hyd, yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y gweithle.

Beth fyddwch chi'n ei brofi
Nod y rhaglen yw eich paratoi ar gyfer cyflogaeth daledig. Byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr sy’n bwysig i gyflogwyr a bydd cyfle i ddangos eich doniau mewn amgylchedd gwaith yn y byd go iawn. Byddwn hefyd yn eich helpu i fagu hyder yng ngallu eich hun i ffynnu yn y gwaith.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:
*Dysgu yn y Gwaith: Byddwch yn treulio amser mewn gweithleoedd go iawn gan ennill profiad ymarferol.
*Rhaglen astudio bersonol: Byddwn yn teilwra eich dysgu i’ch anghenion unigol a’ch dyheadau o ran gyrfa.
*Datblygu sgiliau hanfodol: Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol ac yn ymarfer y sgiliau hynny yn y gweithle.
*Cynllunio yn seiliedig ar nodau: Mae’r holl weithgareddau wedi’u llunio i’ch darparu â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ar gyfer eich siwrnai unigryw at gyflogaeth.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer rhaglenni SBA erbyn diwedd mis Ebrill. Mae hyn yn ein galluogi ni i gynnig cyfnod pontio trylwyr a bydd dysgwyr angen mynychu diwrnod asesu gyda’n Swyddog Pontio cyn dechrau’r rhaglen.
Fel arfer bydd dysgwyr rhwng 16 a 25 oed ac yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd. Bydd angen cymorth sylweddol ar bob un i’w galluogi i gael cyflogaeth â thâl yn llwyddiannus.

Bydd angen i ddysgwyr fod ag agwedd aeddfed, yn barod i ddysgu a datblygu eu sgiliau, ac wedi ymrwymo i ddod o hyd i waith. Bydd llawer o’r dysgwyr wedi symud ymlaen o Lwybr 2 neu 3 a’r Llwybr hwn fydd y ‘flwyddyn olaf’ ar gyfer dysgwyr sydd â’r potensial i symud ymlaen i gyflogaeth â thâl.

Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn gynllun addysg (CDU neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Bydd angen i ddysgwyr allu teithio’n annibynnol i leoliadau gwaith.

Mae angen cyflwyno ceisiadau am raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol erbyn diwedd mis Ebrill er mwyn i ni allu cynnig proses pontio trylwyr a helaeth i’r coleg i ddysgwyr.

Bydd dysgwyr angen mynychu diwrnod asesu gyda’r Swyddog Pontio cyn dechrau’r rhaglen.
Mae eich cynnydd yn bwysig i ni. Bydd gennych Gynllun Dysgu Unigol i gofnodi eich nodau a thargedau personol. Byddwch yn derbyn cymorth un i un gan y Tiwtor Personol a’r Swyddog Pontio i adolygu eich cynnydd ac i gael y cymorth sydd ei angen arnoch yn eich lleoliad. Byddwn yn gosod targedau unigol i wneud yn siŵr eich bod yn symud at eich nodau cyflogaeth hirdymor. Efallai y byddwch eisiau cyflawni cymhwyster neu unedau perthnasol yn ystod y rhaglen.
Nod yr interniaeth hwn yn bennaf yw eich helpu i sicrhau cyflogaeth daledig. Y rhaglen hon yw eich llwybr at yrfa wobrwyol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost