Tystysgrif Dechnegol lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP00380
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi’n barod i droi eich angerdd dros anifeiliaid yn yrfa werth chweil? Mae ein Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnoch chi er mwyn i chi ffynnu yn y diwydiant anifeiliaid. Byddwch chi’n cael trosolwg amrywiol o ofal anifeiliaid, gan ennill profiad ymarferol gydag ystod eang o anifeiliaid yn ein Canolfan Gofal Anifeiliaid rhagorol.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch yn archwilio pynciau diddorol a fydd yn rhoi dechrau da i chi yn eich llwybr gyrfa ddewisol. Dyma gipolwg ar yr hyn y byddwch chi'n ei astudio:

*Iechyd a lles anifeiliaid
*Bridiau a thwtio
*Bywyd gwyllt Prydain
*Bioleg anifeiliaid
*Ymddygiad anifeiliaid
*Bwydo anifeiliaid a llety

Mae ein Canolfan Gofal Anifeiliaid ardderchog yn cynnig cyfle i chi ymdrin â dros gant o rywogaethau, gan gynnwys cwningod, moch, nadroedd, madfallod a chnofilod, gan roi sgiliau ymarferol amhrisiadwy i chi. Rydyn ni’n credu y dylai dysgu fod yn hwyl, felly byddwch chi'n profi amrywiaeth o ddulliau, o ddarlithoedd a gwaith grŵp yn ogystal â hyd at un diwrnod yr wythnos o waith ymarferol.

Byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i wella eich sgiliau Saesneg a Mathemateg. Bydd cefnogaeth ar gael ar gyfer hyn a’r potensial i chi ailsefyll eich TGAU.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg / Rhifedd neu Wyddoniaeth NEU Gwblhau rhaglen Lefel 1 berthnasol yn llwyddiannus y mae’n rhaid iddi gynnwys cyflawniad mewn rhifedd a llythrennedd

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu drwy arholiad, aseiniad synoptig dan reolaeth, ac asesiadau dan reolaeth. Er mwyn eich helpu chi i baratoi’n effeithiol, byddwch chi’n cymryd rhan mewn ffug arholiadau ac asesiadau ymarfer anffurfiol drwy gydol y rhaglen. Byddwch chi hefyd yn cael profiad hanfodol yn y byd go iawn trwy leoliad gwaith allanol yn y diwydiant gofal anifeiliaid.

Os ydych chi’n ailsefyll Saesneg a Mathemateg, bydd y rhain hefyd yn cynnwys arholiadau.
Mae’r cwrs hwn yn agor drysau i gyfleoedd cyffrous yn y sector gofal anifeiliaid! Ar ôl cwblhau’n llwyddiannus, gallech chi:

*Symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid
*Ymgymryd â Phrentisiaeth yn y Gwaith Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid

Dod o hyd i gyflogaeth mewn lleoliadau amrywiol fel:
*Sŵau
*Siopau anifeiliaid anwes
*Llety cŵn a chathod
*Canolfannau achub anifeiliaid
*Practis milfeddygol
*Amrywiaeth o ddisgyblaethau gofal anifeiliaid eraill
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost