Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01506 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid, Dysgu Sylfaen |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 18 Jun 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n angerddol am anifeiliaid ac yn barod i ddechrau gyrfa foddhaol? Mae ein cwrs Lefel Mynediad mewn Gofal Anifeiliaid yn Llaneurgain ar eich cyfer chi, p'un ai ydych chi newydd ddechrau neu'n edrych i ennill sgiliau hanfodol mewn gofal anifeiliaid. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad ymarferol at fyd gofal anifeiliaid gan roi'r profiad a'r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Byddwch chi'n cymryd rhan mewn helpu i ofalu am amrywiaeth eang o anifeiliaid yma yn y coleg! Mae’r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn ac yn ymdrin ag amryw o feysydd allweddol fel:
*Deall iechyd meddwl a llesiant anifeiliaid
*Technegau ymdrin ag anifeiliaid yn ddiogel ac effeithiol
*Arferion bwydo a dyfrio priodol
*Cynnal llety anifeiliaid glân ac addas.
Bydd y Ganolfan Gofal Anifeiliaid rhagorol yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau ymarferol gwerthfawr gyda dros gant o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys cwningod, moch cwta, llygod mawr, llygod, ieir, hwyaid, ffuredau, cŵn, defaid, geifr, moch a physgod. Bydd y profiad ymarferol hwn ynghyd â gwybodaeth ddamcaniaethol bwysig yn rhoi mantais go iawn i chi yn y llwybr gyrfa o’ch dewis.
Er mwyn gwneud eich dysgu mor ddiddorol â phosibl, byddwch yn profi amrywiaeth o ddulliau addysgu, o weithgareddau ystafell ddosbarth a gwaith grŵp i sesiynau ymarferol a thechnoleg ddysgu fodern. Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar hybu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, a phan fyddwch chi'n barod, bydd cyfle gennych chi i ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Bydd gennych Anogwr Bugeiliol ymroddedig a fydd yn eich helpu bob cam o’r daith i wneud yn siŵr bod eich anghenion dysgu yn cael eu cwrdd fel eich bod yn llwyddo.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Byddwch yn cael eich asesu trwy ystod o dasgau ymarferol a theori. Byddwch yn cymryd rhan mewn nifer o asesiadau ymarfer anffurfiol trwy gydol y rhaglen i’ch helpu i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch chi’n barod i gymryd eich cam nesaf! Gallwch symud ymlaen i ddilyn ein cyrsiau Lefel 1 Gofal Anifeiliaid (Technegol) neu Lefel 1 Cyflwyniad i Ofal Anifeiliaid, yn amodol ar fodloni’r meini prawf. Neu fel arall byddwch wedi eich paratoi’n dda ar gyfer swyddi fel cynorthwyydd llety cŵn a chathod, cynorthwyydd siop anifeiliaid anwes neu gynorthwyydd twtio anifeiliaid.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025