City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Gofalu am Anifeiliaid yn Seiliedig ar Waith (trin cwn gwasanaeth)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA12748
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae dysgwyr yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.

Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau yn dibynnu ar lawer o ffactorau, ond mae’r rhan fwyaf yn llwyddo o fewn 24 mis.
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y rhaglen hon yw darparu cymhwyster sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n seiliedig ar gymhwysedd. Mae’n adlewyrchu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud swydd o fewn y diwydiant gofal anifeiliaid, ac yn dangos bod y dysgwr yn gymwys yn y maes hwn o waith. Mae’r llwybr Trin Cŵn Gwasanaeth yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr mewn lleoliad gwaith gofal anifeiliaid, sydd hefyd yn ymgymryd ag elfennau o drin cŵn gwasanaeth. Fodd bynnag, mae llwybrau eraill ar gael, gan gynnwys Sŵau/Sefydliadau Bywyd Gwyllt, Twtio Cŵn, Gofal a Manwerthu Anifeiliaid Anwes, Hyfforddi Anifeiliaid a Gofal a Lles Anifeiliaid.

Mae'r lefel hon yn briodol os oes gennych chi rywfaint o wybodaeth a'ch bod am brofi eich cymhwysedd yn eich rôl, a gallai eich helpu i symud o swydd iau i swydd uwch. Efallai eich bod hefyd yn chwilio am gymhwyster i'ch paratoi ar gyfer symud ymlaen i gymwysterau Lefel 3.

I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi gyflawni ystod o unedau gorfodol a dewisol, sy’n gyfanswm o 44 neu ragor o gredydau: Gall yr union ddewis o unedau dewisol y gallwch ddewis ohonynt ddibynnu ar eich swydd.Mae enghreifftiau o’r unedau’n cynnwys:
* Sicrhau bod eich gweithredoedd eich hun yn lleihau risgiau i iechyd a diogelwch.
* Cyfrannu at werthuso a gweithredu rhaglenni hyfforddi anifeiliaid sylfaenol
* Rheoli ac atal anifeiliaid
* Rheoli ci pwrpas cyffredinol o dan amodau gweithredu
* Paratoi ar gyfer a chynnal chwiliadau gan ddefnyddio ci
* Cynnal a datblygu perfformiad cŵn
* Cynnal hyfforddiant parhaus gyda chi diogelwch

Os ydynt yn cwblhau'r cwrs hwn fel rhan o Fframwaith Prentisiaeth, mae'n ofynnol i ddysgwyr ymgymryd â'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar lefel 1, mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Nid oes unrhyw ofynion sylfaenol, ond bydd asesiad cwmpas swydd ac asesiadau cychwynnol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y cwrs cywir yn cael ei ddewis.
Mae asesu yn yr ardal waith yn digwydd trwy gydol y rhaglen, ochr yn ochr â chwestiynu ysgrifenedig a/neu lafar, a ddefnyddir i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Gall bodloni un o’r cymwysterau hyn eich helpu chi i weithio mewn swyddi fel:
*Hyfforddwr cŵn cymorth
*Triniwr cŵn
*Gweithiwr llety cŵn

Gall ymgeiswyr llwyddiannus ystyried symud ymlaen at Ddiploma Lefel 3 mewn Gofal Anifeiliaid yn y Gwaith.

Mewn llawer o achosion, efallai y bydd cyllid ar gael tuag at gost y cwrs.​ Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost