Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01022
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs llawn amser (tridiau’r wythnos) blwyddyn o hyd ynghyd ag oriau cofnodedig mewn lleoliad gwaith
Adran
Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid, Dysgu Sylfaen
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2026
Dyddiad gorffen
18 Jun 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Ydych chi wrth eich bodd gydag anifeiliaid ac yn barod i ddechrau ar eich siwrnai ym maes gofal anifeiliaid? Os ydych chi newydd ddechrau neu'n awyddus i ddatblygu eich diddordeb amlwg mewn anifeiliad yna mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi. Byddwch yn dysgu am ofal anifeiliaid trwy brofiad ymarferol a dysgu yn yr ystafell ddosbarth a’r cyfan wedi’i ddatblygu i’ch paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol.

Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Mae'r cwrs cyffrous hwn yn rhoi cyflwyniad gwych i fyd gofal anifeiliaid! Byddwch chi'n cymryd rhan weithgar mewn gofalu am yr ystod eang o anifeiliaid yma yn y coleg gan gynnwys cwningod, moch cwta, ieir, hwyaid, a llawer mwy.

Byddwch chi'n datblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol mewn pynciau fel:
*Iechyd a llesiant anifeiliaid
*Trin anifeiliaid yn ddiogel
*Bywyd gwyllt a chadwraeth
*Rhoi bwyd a dŵr i anifeiliaid
*Deall llety anifeiliaid.

Mae ein Canolfan Gofal Anifeiliaid ragorol yn rhoi cyfleoedd anhygoel i chi ennill sgiliau ymarferol gwerthfawr. Byddwch hefyd yn cwblhau 60 awr o brofiad gwaith grŵp mewn lleoliad wedi’i drefnu gan roi cipolwg i chi ar y diwydiant yn y byd go iawn. Byddwch chi’n dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys gwaith ymarferol a thechnoleg dysgu modern.

Bydd gennych chi’r cyfle i fynd i’r afael â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Bydd y cymwysterau hyn yn eich helpu chi i symud ymlaen at lefelau uwch o ddysgu. Bydd gennych Anogwr Cynnydd i'ch helpu bob cam o'r ffordd gan sicrhau bod gennych yr holl help sydd ei angen arnoch i lwyddo.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).

I ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o gwrs lefel mynediad, mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyflawni’r holl dargedau yn eich Cynllun Dysgu Unigol.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Byddwch yn cael eich asesu drwy ddau brawf ar-lein ac amrywiaeth o dasgau ymarferol a theori. Trwy gydol y cwrs byddwch yn cymryd rhan mewn asesiadau ymarfer i’ch helpu i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol. Bydd eich profiad gwaith yn y diwydiant gofal anifeiliaid hefyd yn cyfrannu at eich asesiad.
Ar ôl cwblhau, byddwch wedi’ch paratoi’n dda i ddilyn rolau cyffrous fel cynorthwyydd llety cŵn a chathod, cynorthwyydd siop anifeiliaid anwes neu gynorthwyydd trin anifeiliaid anwes. Gallwch hefyd symud ymlaen i ddilyn pwnc technegol Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid sy’n agor hyd yn oed mwy o ddrysau!
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost