Rhagor o fanylion | |
|---|---|
Cod y Cwrs | LP01623 |
Lleoliad | Glannau Dyfrdwy |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser. |
Adran | Dysgu Sylfaen |
Dyddiad Dechrau | 01 Sep 2026 |
Dyddiad gorffen | 31 Jul 2027 |
Trosolwg o’r Cwrs
Ydych chi'n gadael yr ysgol ac yn teimlo'n ansicr ynglŷn â'ch camau nesaf? Ydych chi eisiau archwilio gwahanol bynciau a llwybrau gyrfa cyn ymrwymo i un? Mae ein cwrs Astudiaethau Galwedigaethol wedi'i gynllunio yn berffaith i chi! Mae'r rhaglen lefel mynediad hon yn berffaith ar gyfer pobl 16-18 oed sydd eisiau meithrin eu hyder, datblygu sgiliau hanfodol, a darganfod ble mae eu talentau.
Beth Fyddwch chi'n ei Ddysgu
Ar y cwrs cyffrous hwn, byddwch chi’n cael sylfaen gadarn mewn meysydd craidd fel TG, Menter a Dinasyddiaeth. Byddwch chi hefyd yn cael dewis o ystod o unedau deniadol sy'n cynnig blas o wahanol feysydd galwedigaethol, gan eich helpu chi i ddod o hyd i'r hyn sy'n wirioneddol ennyn eich diddordeb. Gallai’r rhain gynnwys:
*Cyfryngau Creadigol
*E-chwaraeon
*Gofal
*Crefftau Adeiladu
*Peirianneg
*Gwallt a Harddwch
*Chwaraeon
Byddwch chi'n datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw ac yn barod am ddyfodol gwerth chweil, boed hynny'n astudiaeth bellach neu'n swydd wych. Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar hybu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd, a phan fyddwch chi'n barod, bydd cyfle gennych chi i ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Eich Taith Gyda Ni
Cwrs blwyddyn, llawn amser yw hwn, lle byddwch chi’n mynd i’r coleg dridiau'r wythnos. Byddwch chi'n cael eich cefnogi gan Anogwr Bugeiliol. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw gefnogaeth ddysgu sydd ei hangen arnoch chi ar waith cyn i chi hyd yn oed ddechrau, a byddan nhw'n parhau i'ch helpu chi i lwyddo drwy gydol eich rhaglen. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio'n llawn i fodloni eich anghenion unigol a'ch gwahaniaethau dysgu, gan sicrhau eich bod chi'n teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus i ffynnu.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Ni fydd gennych unrhyw arholiadau ffurfiol ar y cwrs hwn. Yn lle hynny, bydd eich cynnydd yn cael ei asesu trwy dasgau rydych chi’n eu cwblhau drwy gydol y flwyddyn. Byddwch chi hefyd yn cwblhau asesiadau ar gyfer llythrennedd a rhifedd i’n helpu ni i gefnogi eich datblygiad.
Y cwrs hwn yw’r cam perffaith i chi ddarganfod eich llwybr gyrfa delfrydol. Yn eich tymor olaf, byddwch chi’n cael profiad o sesiynau blasu mewn gwahanol feysydd galwedigaethol, gan eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus am eich camau nesaf. Ar ôl cwblhau, byddwch chi wedi’ch paratoi i ddilyn:
*Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol
*Rhaglen Twf Swyddi Cymru+
*Cyflogaeth.
*Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol
*Rhaglen Twf Swyddi Cymru+
*Cyflogaeth.
Efallai y bydd rhai cyrsiau yn gofyn am brynu cit/offer. Edrychwch ar y rhestr cit atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llaneurgain
14/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiadau Agored Mis Mawrth – Llysfasi
07/03/2026
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael cip o amgylch y safle a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i’ch helpu i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Glannau Dyfrdwy a Chweched Glannau Dyfrdwy
13/11/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/11/2025